Garn Boduan

Oddi ar Wicipedia
Garn Boduan
Mathcaer lefal Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr279 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.9245°N 4.5145°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH31003930 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwCN009 Edit this on Wikidata

Bryn 280 metr o uchder gerllaw Nefyn ar Benrhyn Llŷn, Gwynedd, yw Garn Boduan gyda bryngaer o Oes yr Haearn[1] ar ei gopa (cyfeiriad grid SH310392). Mae'r gaer yn un o'r rhai mwyaf yng Nghymru gydag arwynebedd o tua deg hectar;[2] cyfeiriad grid SH312393. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 107metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.

Gellir cyrraedd Garn Boduan trwy ddilyn llwybr oddi ar y B4354, rhyw 300 metr o'r briffordd A497.

Y copa[golygu | golygu cod]

Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn (mynydd). Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghyd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[3] Uchder y copa o lefel y môr ydy 279m (915tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ddiwethaf ar 28 Hydref 2001.

Y fryngaer[golygu | golygu cod]

Mae'r Garn, hefyd, yn safle bryngaer Geltaidd sy'n perthyn i Oes yr Haearn[1], ac sydd wedi'i lleoli ger Buan; cyfeirnod OS: SH313393.

Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: CN009.[4] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru. O ran cynllun mae'n weddol debyg i Tre'r Ceiri gerllaw, gyda muriau cerrig yn amgylchynu arwynebedd o tua 10 hectar. Tu mewn i'r muriau mae gweddillion o leiaf 170 o dai crwn. Ar yr ochr ddwyreiniol mae caer fechan arall a allai fod yn ddiweddarach o ran dyddiad.

Fel arfer, fel mae'r gair yn ei awgrymu, ar fryn y codwyd y caerau hyn, er mwyn i'r amddiffynwyr gael mantais milwrol. Un o'r bryngaerau mwyaf trawiadol yng Nghymru ydy Tre'r Ceiri, a hon yw'r fryngaer Oes Haearn fwyaf yng ngogledd-orllewin Ewrop.[5] Mae ei harwynebedd oddeutu 2.5ha.[6] Y mwyaf o ran maint (arwynebedd), fodd bynnag ydy Bryngaer Llanymynech sydd ag arwynebedd o 57 hectar.[7]

Lloches i gartrefi a gwersyllfeydd milwrol oedd eu pwrpas felly, cyn y goresgyniad Rhufeinig; a chafodd cryn lawer ohonynh nhw eu hatgyfnerthu a'u defnyddio, yng nghyfnod y Rhufeiniaid; er enghraifft Dinorben yng ngogledd Cymru. Oes aur bryngaerau gwledydd Prydain oedd rhwng 200 CC ac OC 43.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Frances Lynch, Gwynedd, A Guide to Ancient and Historic Wales (Llundain: HMSO, 1995)
  2. "Gwefan y BBC". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2004-05-09. Cyrchwyd 2010-09-05.
  3. “Database of British and Irish hills”
  4. Cofrestr Cadw.
  5. References Wales gan John May; Gwasg Prifysgol Cymru.
  6. "Gwefan y BBC". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-04-11. Cyrchwyd 2012-03-04.
  7. "Gwefan CPAT". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-01-07. Cyrchwyd 2012-03-04.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]