Troedfedd
Uned fesur hyd yw troedfedd. Rhan isaf y goes ydy'r troed ac mae wedi rhoi ei enw i'r mesur hwn, sydd tua'r un faint a maint troed eitha mawr. Nid yw'r uned yn rhan o'r unedau safonol hynny a ddefnyddir yn fyd-eang, sef y System Ryngwladol o Unedau. Defnyddir "troedfedd" i fesur pellter sydd tua 30 centimetr, neu'n union 0.3048 metr. Ceir deuddeg modfedd mewn troedfedd ac mae tair troedfedd yn gwneud un llath.
Hanes
[golygu | golygu cod]Mae'n fesuriad eitha hen ac yn dod o nifer o wledydd gan gynnwys gwledydd Prydain a'r Eidal ac yn perthyn i'r grwp o unedau hynny a elwir yn Unedau imperial. Yn wreiddiol roedd troedfedd (uned hyd) yr un hyd a throed Rhufeiniwr. Yng Nghymru'r Oesoedd Canol roedd y droedfedd yn uned fesur sylfaenol a cheir cyfeiriadau ati yng Nghyfraith Hywel; ond naw modfedd yn hytrach na deuddeg oedd hyd y droedfedd Gymreig.[1] Yn Llyfr Iorwerth a llyfrau cyfraith eraill defnyddir y droedfedd i ddiffinio maint yr erw Gymreig.[1]
Yn y 12g cafodd y droedfedd ei diffinio gan ddeddf a gyhoeddwyd gan Harri I yn Lloegr.[2] Gan fod cyfartaledd maint y troed ychydig yn llai na 30 cm, ymddengys fod y maint hwn hefyd yn cynnwys yr esgid. Er enghraifft, cyfartaledd maint troed person sy'n 180 cm (5 tr 11 mod) ydy 275 mm.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Aled Rhys Wiliam (gol.), Llyfr Iorwerth (Gwasg Prifysgol Cymru, 1960), tud. 119.
- ↑ Oswald Ashton Wentworth Dilke (22 Mai 1987). Mathematics and measurement. University of California Press. t. 23. ISBN 978-0-520-06072-2. Cyrchwyd 2 Chwefror 2012.