Llyfr Iorwerth

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Llyfr Iorwerth yw'r term a ddefnyddir gan ysgolheigion i ddynodi'r dull ar y Cyfreithiau Cymreig canoloesol a ddatblygodd yng Ngwynedd yn Oes y Tywysogion. Fe'i gelwir hefyd yn 'Dull Gwynedd' (Saesneg, Venedotian Code, yn nosbarthaid Aneurin Owen yn ei gyfrol Ancient Laws and Institutes of Wales, 1840). Gyda Llyfr Blegywryd ('Dull Dyfed') a Llyfr Cyfnerth (a elwir hefyd, yn gamarweiniol, yn 'Ddull Gwent'), Llyfr Iorwerth yw un o'r tri dull taleithiol ar Gyfraith Hywel.

Y prif nodweddion ar y grŵp o lawysgrifau a elwir yn Llyfr Iorwerth mewn cymhariaeth a'r dulliau eraill yw:

  • Yn ôl traddodiad, golygwyd y Gyfraith yn y dull hwn gan gyfreithiwr o'r enw Iorwerth ap Madog ap Rhawd, gŵr a oedd yn perthyn i dylwyth uchelwrol a oedd yn dal dir yng Ngwynedd yn y 13g.
  • Pwysleisir pwysigrwydd a statws arbennig brenin Aberffraw (tywysog Gwynedd).
  • Mae llawer o'r llawygrifau yn cynnwys deunydd chwedlonol/traddodiadol sy'n ymwneud ag arwyr a gysylltir â Gwynedd, e.e. Maelgwn Gwynedd a Breiniau Gwŷr Gwynedd ('Breintiau Gwŷr Gwynedd').
  • Ceir adran arbennig am y brenin traddodiadol Dyfnwal Moelmud sy'n honni mai ef a greodd y drefn gyntaf ar y cyfreithiau, canrifoedd cyn amser Hywel Dda.
  • Traethawd arbennig (cyfar) nas ceir yn y Dulliau eraill, a chyfresi o Ddamweiniau (achosion llys enghreifftiol).
  • Amrywiaethau ymarferol yn yr adran am weinyddu'r gyfraith sy'n awgrymu trefn neilltuol yng Ngwynedd.
  • Mân amrywiadau yn yr eirfa arbennigol. e.e. uchelwr yn lle breyr, taeog yn lle mab aillt.

Credir i'r gwahaniaethau hyn adlewyrchu twf dylanwad Gwynedd yn Oes y Tywysogion ac uchelgais gwleidyddol ei thywsogion i arwain Cymru. Ceir tua 25 llawysgrif o Ddull Gwynedd. Perthyn y testunau cynharaf i'r 13g, cyfnod Llywelyn Fawr a Llywelyn ap Gruffudd.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Aled Rhys Wiliam (gol.), Llyfr Iorwerth (Caerdydd, 1960). Testun cyfansawdd golygiedig, seiliedig ar destunau'r llawysgrifau pwysicaf.
  • Morfydd E. Owen, 'Y Cyfreithiau', yn Y Traddodiad Rhyddiaith yn yr Oesau Canol (Gwasg Gomer, 1974)