Dinorben

Oddi ar Wicipedia
Dinorben
Mathcaer lefal, safle archaeolegol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.2682°N 3.5488°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH968757 Edit this on Wikidata
Map

Bryngaer o faint canolig ger arfordir gogledd Cymru yw Dinorben. Mae'n gorwedd ar fryn i'r de o bentref Llan Sain Siôr, ym mwrdeistref sirol Conwy, tua hanner ffordd rhwng Llanelwy ac Abergele. Cyfeirir ati weithiau fel 'Parc y meirch', ar ôl yr ystâd gerllaw.

Cafodd y fryngaer ei gloddio gan archaeolegwyr yn 1912-22 ac yn achlysurol ers 1955 er mwyn cofnodi'r safle sy'n cael ei ddinistrio gan waith y chwarel yno. Mewn canlyniad mae'n un o fryngaerau mwyaf adnabyddus y gogledd i archaeolegwyr.

Nid oedd yn gaer fawr iawn, gan amgáu tua 2 hectar yn unig. Fe'i amddiffynnir gan greigiau calchfaen y bryn (safle'r chwarel heddiw) i'r gogledd a chyfres o waith amddiffynnol anferth i'r de. Ar ei hanterth, roedd yr amddiffynfeydd hyn yn cynnwys clawdd anferth gyda dau arall, llai, y tu allan iddo. Yn ei ffurf derfynol roedd gan y porth fynedfa hir o gerrig 10 medr o hyd gyda siambrau i amddiffynwyr yn ei ben mewnol. Y grêd yw bod amddiffynfeydd cyntaf y gaer wedi ei chreu gyda chlawdd o glai a atgyfnerthwyd â phren, a hyn o gwmpas 10fed ganrif C.C.. Yn dilyn llosgi'r pren ar ryw adeg, fe'i hail-adeiladwyd gyda wal cerrig sych a ffos is-law, a hyn tua'r 5ed ganrif C.C..[1]

Cafwyd hyd i olion nifer o gytiau tu mewn i'r muriau. Ar sail tystiolaeth y cloddio yn y cytiau hyn, sy'n cynnwys crochenwaith a darnau pres o'r 3edd a'r 4g OC, tybir fod y gaer yn dyddio o gyfnod Oes yr Haearn ac iddi gael ei defnyddio trwy gyfnod y Rhufeiniaid ac iddi barhau fel un o ganolfannau llwythol lleol y Deceangli brodorol yn y cyfnod ôl-Rufeinig. Cafwyd nifer o esgyrn ceirw yn ystod y cloddio. Credir bod y safle wedi bod mewn defnydd ers 1000 C.C., gydag un darn o bren wedi ei ddyddio o 945 ± 95 (dyddio radiocarbon).[1]

Darganfuwyd olion gweithio plwm a haearn yn y gaer. Cafwyd hyd i ddau glust bwced efydd ar ffurf pennau teirw, sydd ar gadw yn Amgueddfa Cymru, Caerdydd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Savory, H. N. (1971). Excavations at Dinorben, 1965-9,. Cardiff,: National Museum of Wales. ISBN 0-7200-0048-3. OCLC 447777.CS1 maint: extra punctuation (link)

Darllen pellach[golygu | golygu cod]