Pen Dinas (Aberystwyth)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Pendinas yw'r enw ar y bryn i'r de o Aberystwyth. Adwaenir y bryn yn syth gan y tŵr uchel sy'n ei goroni. Ar yr ochr orllewinol i Ben Dinas, rhed Afon Ystwyth i'r môr, tra bod harbwr Aberystwyth ac Afon Rheidol yn gorwedd i'r gogledd. Ceir golygfeydd oddi yma o ddyffrynoedd y ddwy afon, tref Aberystwyth, y Llyfrgell Genedlaethol a Bae Ceredigion. Saif y copa 114 metr uwchlaw lefel y môr.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Pen Dinas o'r de gyda Aberystwyth yn y cefndir

Adeiladwyd caer Oes yr Haearn ar Ben Dinas, sydd o bosibl yn esbonio'r enw hefyd. Yn ystod cloddio archaeolegol yn ystod y 1930au, darganfuwyd olion crochenwaith yn dyddio o tua 100 CC ar y bryn. Credir i'r gaer gyntaf gael ei hadeiladu gan y Celtiaid ar ochr ogleddol y bryn, ac na adeiladwyd ar gopa deheuol y bryn tan ddegawdau'n ddiweddarach. Er fod nifer o gaerau Oes yr Haearn eraill yn y cyffiniau, mae arddull adeiladu'r gaer yn fwy tebyg i gaerau a welir i'r dwyrain, yn agosach at y ffin bresennol a Lloegr, sy'n awgrymu o bosibl i'r gaer gael ei hadeiladu gan fudwyr o'r dwyrain tua 300 CC (Stanford: 1972). Mae'n debyg i ddyfodiad y Rhufeiniaid ddod ag oes y gaer fel amddiffynfa i ben.

Cofgolofn o'r 19g yw'r tŵr a welir heddiw. Mae'r twr, sydd ar siap magnel yn wynebu i fyny, yn deyrnged i Dug Wellington a Brwydr Waterloo. Gobeithiwyd coroni'r golofn gyda cherflun o Wellington ar gefn ei geffyl, ond aeth y noddwyr i drafferthion ariannol cyn cwblhau'r gwaith.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • 'Welsh border hill-forts', S. C. Stanford, yn The Iron Age in the Irish Sea Province (C.B.A. Research Report 9, 1972) tud. 35 [1][dolen marw]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]