Neidio i'r cynnwys

Pen Dinas, Aberystwyth

Oddi ar Wicipedia
Pen Dinas
Mathbryn, copa Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadPenparcau Edit this on Wikidata
SirAberystwyth Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr128 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.40158°N 4.08239°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN5843080218 Edit this on Wikidata
Amlygrwydd94 metr Edit this on Wikidata
Map

Bryn i'r de o Aberystwyth, Ceredigion, yw Pen Dinas. Adwaenir y bryn yn syth gan y tŵr uchel sy'n ei goroni. Ar yr ochr orllewinol i Ben Dinas, rhed Afon Ystwyth i'r môr, tra bod harbwr Aberystwyth ac Afon Rheidol yn gorwedd i'r gogledd. Ceir golygfeydd oddi yma o ddyffrynoedd y ddwy afon, tref Aberystwyth, y Llyfrgell Genedlaethol a Bae Ceredigion. Saif y copa 114 metr uwchlaw lefel y môr.

Adeiladwyd caer Oes yr Haearn ar Ben Dinas, sydd o bosibl yn esbonio'r enw hefyd.[1] Yn ystod cloddio archaeolegol yn ystod y 1930au, darganfuwyd olion crochenwaith yn dyddio o tua 100 CC ar y bryn. Credir i'r gaer gyntaf gael ei hadeiladu gan y Celtiaid ar ochr ogleddol y bryn, ac na adeiladwyd ar gopa deheuol y bryn tan ddegawdau'n ddiweddarach. Er fod nifer o gaerau Oes yr Haearn eraill yn y cyffiniau, mae arddull adeiladu'r gaer yn fwy tebyg i gaerau a welir i'r dwyrain, yn agosach at y ffin bresennol a Lloegr, sy'n awgrymu o bosibl i'r gaer gael ei hadeiladu gan fudwyr o'r dwyrain tua 300 CC (Stanford: 1972). Mae'n debyg i ddyfodiad y Rhufeiniaid ddod ag oes y gaer fel amddiffynfa i ben.

Cofgolofn o'r 19g yw'r tŵr a welir heddiw. Mae'r twr, sydd ar siap magnel yn wynebu i fyny, yn deyrnged i Dug Wellington a Brwydr Waterloo. Gobeithiwyd coroni'r golofn gyda cherflun o Wellington ar gefn ei geffyl, ond aeth y noddwyr i drafferthion ariannol cyn cwblhau'r gwaith.

Cofgolofn Wellington ar gopa Pen Dinas

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. S. C. Stanford, "Welsh border hill-forts", yn The Iron Age in the Irish Sea Province (C.B.A. Research Report 9, 1972), tud. 35 [1] Archifwyd 2009-06-02 yn y Peiriant Wayback

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]