Pen-y-gaer (Llanaelhaearn)
Math |
caer lefal ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Gwynedd ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
52.9838°N 4.3419°W ![]() |
Cod OS |
SH42904550 ![]() |
![]() | |
Dynodwr Cadw |
CN052 ![]() |
Bryn a bryngaer yn Llŷn, Gwynedd yw Pen-y-gaer. Mae'r gaer gynhanesyddol yn gorwedd ar ben y bryn, sy'n codi 387 metr uwch lefel y môr, rhwng Llanaelhaearn i'r gorllewin a Garn Dolbenmaen i'r dwyrain a thua 3 milltir i'r de o Glynnog. Cyfeirnod AO: (map 123) 429 455.[1]
Disgrifiad[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae mur trwchus o gerrig, sydd â lled o hyd at 4.5 metr mewn mannau, yn amgylchynu pen y bryn gan amgae o'i fewn tua dwsin o safleoedd cytiau crwn. Mae'n dyddio o Oes yr Haearn. Ceir grŵp arall o gytiau cynhanesyddol gerllaw, wrth droed y bryn ger fferm Tyddyn-mawr. Ceir caeau cynhanesyddol ger y cytiau ac er nad oes modd profi eu bod yn gysylltiedig â'r gaer mae'n debyg eu bod.[2]
Fel arfer, fel mae'r gair yn ei awgrymu, ar fryn y codwyd y caerau hyn, er mwyn i'r amddiffynwr gael mantais milwrol. Un o'r bryngaerau mwyaf trawiadol yng Nghymru ydy Tre'r Ceiri, a hon yw'r fryngaer Oes Haearn fwyaf yng ngogledd-orllewin Ewrop.[3] Mae ei harwynebedd oddeutu 2.5ha.[4] Y mwyaf o ran maint (arwynebedd), fodd bynnag ydy Bryngaer Llanymynech sydd ag arwynebedd o 57 hectar.[5]
Cadwraeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: CN052.[6] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Lleoliad ar y map AO
- ↑ Christopher Houlder, Wales: an archaeological guide (Faber & Faber, 1977), tud. 51.
- ↑ References Wales gan John May; Gwasg Prifysgol Cymru.
- ↑ Gwefan y BBC
- ↑ Gwefan CPAT
- ↑ Cofrestr Cadw.