Crug Hywel
![]() | |
Math | bryngaer sy'n rhannol ddilyn tirffurf y graig ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 451 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 51.8792°N 3.1264°W ![]() |
Cod OS | SO22552065 ![]() |
Cadwyn fynydd | Mynydd Du ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig ![]() |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | BR128 ![]() |
Bryn â chopa gwastad ar ymyl ddeheuol y Mynydd Du yn ne-ddwyrain Cymru yw Crug Hywel (Saesneg: Table Mountain). Mae'n codi i uchder o 451 m uwchben lefel y môr o ystlys ddeheuol Pen Cerrig-calch (701 m), ac mae'n sefyll uwchben tref Crucywel, Powys ac yn rhoi ei enw iddi. Cyfeirnod OS: SO225206.
Disgrifiad[golygu | golygu cod]
Ar gopa'r bryn ceir bryngaer Geltaidd o Oes yr Haearn sy'n llenwi pen y mynydd i gyd. Mae ei ffos a chlawdd pridd a cherrig i'w gweld yn eglur. Mae'r ammddifynwaith unigol ar siap triongl neu ddeigryn afreolaidd sy'n dilyn amlinell naturiol y bryn. Ceir mynedfa sy'n troi i mewn ar ei hun yn y gongl orllewinol. Ymddengys na chafodd y bryngaer ei gwella yn ddiweddarach a bod yr adeiladwaith yn perthyn i un cyfnod yn unig.
Cefndir[golygu | golygu cod]

Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: BR128.[1] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.
Fel arfer, fel mae'r gair yn ei awgrymu, ar fryn y codwyd y caerau hyn, er mwyn i'r amddiffynwyr gael mantais milwrol. Un o'r bryngaerau mwyaf trawiadol yng Nghymru ydy Tre'r Ceiri, a hon yw'r fryngaer Oes Haearn fwyaf yng ngogledd-orllewin Ewrop.[2] Mae ei harwynebedd oddeutu 2.5ha.[3] Y mwyaf o ran maint (arwynebedd), fodd bynnag ydy Bryngaer Llanymynech sydd ag arwynebedd o 57 hectar.[4]
Lloches i gartrefi a gwersyllfeydd milwrol oedd eu pwrpas felly, cyn y goresgyniad Rhufeinig; a chafodd cryn lawer ohonynh nhw eu hatgyfnerthu a'u defnyddio, yng nghyfnod y Rhufeiniaid; er enghraifft Dinorben yng ngogledd Cymru. Oes aur bryngaerau gwledydd Prydain oedd rhwng 200 CC ac OC 43.
Gweler hefyd[golygu | golygu cod]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Cofrestr Cadw.
- ↑ References Wales gan John May; Gwasg Prifysgol Cymru.
- ↑ "Gwefan y BBC". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-04-11. Cyrchwyd 2013-08-25.
- ↑ "Gwefan CPAT". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-01-07. Cyrchwyd 2013-08-25.