Twmbarlwm
Gwedd
Math | caer lefal |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Rhisga |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 419 metr |
Cyfesurynnau | 51.6272°N 3.0962°W |
Cod OS | ST2421792611 |
Amlygrwydd | 48 metr |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | MM044 |
Mynydd i'r gogledd-ddwyrain o dref Rhisga ym mwrdeistref sirol Caerffili yw Twmbarlwm, uchder 419m ac arwynebedd o 4.14 hectar (deg erw).
Ceir gweddillion bryngaer o'r Oes Haearn ger gopa'r mynydd. Credir iddi gael ei chodi gan lwyth Celtaidd a drigai yn yr ardal cyn ac yn ystod cyfnod y Rhufeiniaid yng Nghymru. Mae'n fryngaer ag iddi un mur un unig gyda dau fwlch mawr ynddo. Yn ei phen dwyreiniol geir olion castell mwnt a beili bychan a fanteisiai ar yr hen safle amddiffynnol.
Gwelir y mwnt yn glir a cheir golygfeydd o Fôr Hafren a Chaerdydd. Mae'n rhan o Ffordd Goedwig Cwm-carn ac mae bellach yn atyniad poblogaidd i gerddwyr.