Moel y Gaer (Rhosesmor)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Moel y Gaer: un o'r ffosydd allanol, sy'n 180 metr mewn diametr

Bryngaer ger Rhosesmor, Sir y Fflint sy'n dyddio'n ôl i Oes yr Haearn yw Moel y Gaer (Cyfeirnod OS: SJ211690). Fe saif 303 metr uwchlaw'r môr ac mae'n cynnwys tai crynion Celtaidd (a rhai petrual o gyfnod ychydig yn ddiweddarach) bron ar gopa'r bryn ac yn dyddio'n ôl i 2994 BC (+-40) yn ôl dyddio carbon diweddar.[1] Er nad yw'n rhan o'r gadwyn honno o fryniau a elwir Moelydd Clwyd, mae'n eitha agos iddynt, ac yn sicr yn rhan o gadwyn o fryngaerau megis Moel Hiraddug, Moel Arthur, Moel Fenlli, a Phenycloddiau. Archwiliwyd y fryngaer hon yn drylwyr gan archaeolegwyr yn yr 1970au (gan Graeme Gillbert) oherwydd y bygythiad i'r lle gan ddiwydiant: cronfa ddŵr 500,000 galwyn.

Yn ystod yr archwilio archaeolegol cafwyd hyd i lawer iawn o gerrig tafl, wedi'u gosod ger rhai o'r muriau allanol yn barod i'w chwirlio ar y gelyn ynghyd â chwarel fechan o fflint a phen-saethau fflint o'r chwarel. Y llwyth Celtaidd Deceangli neu o bosib y Brigantes oedd yn gyfrifol am godi'r gaer, mae'n debyg. Ysywaeth, oherwydd natur asidig y pridd, ychydig iawn o esgyrn sydd wedi goroesi, a dim gwaith metel o gwbwl.

Darganfuwyd storfeydd grawn, o bosib, ar ffurf adeiladau ar bedwar postyn lle gallai'r grawn gael ei gadw'n ffres o afael llygod ac anifeiliaid eraill. Ceir tystiolaeth o byllau tanddaearol hefyd i gadw'r grawn.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. The Archaeology of Clwyd gan Wasanaethau Archaeoleg Clwyd, Cyngor Sir Clwyd, 1991.

Dolennau allanol[golygu | golygu cod y dudalen]