Gaer Fawr, Cegidfa

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Gaer Fawr (Cegidfa))
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Gaer Fawr, Cegidfa
Gaer Fawr Hill Fort from footpath - geograph.org.uk - 2083895.jpg
Mathcaer lefal Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.7093°N 3.15°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ2241013050 Edit this on Wikidata
Dynodwr CadwMG006 Edit this on Wikidata

Mae Gaer Fawr yn fryngaer Geltaidd sy'n perthyn i Oes yr Haearn, ac sydd wedi'i lleoli ger Cegidfa, Powys, Cymru; cyfeirnod OS: SJ224130.

Disgrifiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r Gaer Fawr a'i seiliau'n ddwfn yn Oes yr Haearn.[1] Saif ar gopa bryncyn tua 213 metr uwchlaw lefel y môr, tua 5.4 kilometr i'r gogledd o'r Trallwng. Siap hirgrwn sydd i'r gaer ac mae hi wedi'i gorchuddio tan goed.[2]

Mae arwynebedd y gaer oddeutu 5.8 ha[2] wedi'u hamlinellu gan y cloddiau allanol - sydd wedi'u cadw'n arbennig o dda dros y canrifoedd. Ar adegau mae'r cloddiau'n 8 metr o uchder gyda chloddiau dwbwl yn atgyfnerthu'r amddiffynfa yn y dwyrain a hyd at 5 clawdd yn atgyfnerthu'r ochr orllewinol.

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: MG006.[3] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.

Fel arfer, fel mae'r gair yn ei awgrymu, ar fryn y codwyd y caerau hyn, er mwyn i'r amddiffynwr gael mantais milwrol. Un o'r bryngaerau mwyaf trawiadol yng Nghymru ydy Tre'r Ceiri, a hon yw'r fryngaer Oes Haearn fwyaf yng ngogledd-orllewin Ewrop.[4] Mae ei harwynebedd oddeutu 2.5ha.[5] Y mwyaf o ran maint (arwynebedd), fodd bynnag ydy Bryngaer Llanymynech sydd ag arwynebedd o 57 hectar.[6]

Lloches i gartrefi a gwersyllfeydd milwrol oedd eu pwrpas felly, cyn y goresgyniad Rhufeinig; a chafodd cryn lawer ohonynh nhw eu hatgyfnerthu a'u defnyddio, yng nghyfnod y Rhufeiniaid; er enghraifft Dinorben yng ngogledd Cymru. Oes aur bryngaerau gwledydd Prydain oedd rhwng 200 CC ac OC 43.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Gwefan Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2015-01-03. Cyrchwyd 2013-06-30.
  2. 2.0 2.1 "Coflein". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-12-16. Cyrchwyd 2013-06-30.
  3. Cofrestr Cadw.
  4. References Wales gan John May; Gwasg Prifysgol Cymru.
  5. "Gwefan y BBC". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-04-11. Cyrchwyd 2012-03-04.
  6. "Gwefan CPAT". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-01-07. Cyrchwyd 2012-03-04.