Y Trallwng

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Trallwng)
Jump to navigation Jump to search
Y Trallwng
High Street, Welshpool - geograph.org.uk - 212594.jpg
Math Tref, Cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth 6,664 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Powys Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Gerllaw Afon Hafren Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 52.6597°N 3.1473°W Edit this on Wikidata
Cod SYG W04000352 Edit this on Wikidata
Cod OS SJ225075 Edit this on Wikidata
Cod post SY21 Edit this on Wikidata

Mae'r Trallwng (Saesneg: Welshpool; cyn-1835 Pool) yn dref yng ngogledd-ddwyrain Powys, sy'n gorwedd ar lan Afon Hafren, 4 milltir (6.4 km) o'r ffin rhwng Cymru â Lloegr. Arferai fod yn yr hen Sir Drefaldwyn. Gerllaw, i'r dwyrain, saif Cefn Digoll (408 metr (1,339 tr), a chwaraeodd ran mor allweddol yn amddiffyn y genedl oddi wrth y goresgynwyr estron: y Saeson. Yma ar 16 Awst 1485 y cyfarfu dwy fyddin: milwyr Harri Tudur (tua dwy fil o filwyr) a byddin Rhys ap Thomas (tua 3,000) gan uno'n un fyddin gref; oddi yma teithiodd y fyddin tua'r dwyrain i'r Amwythig ac ymlaen i Faes Bosworth.

Ceir yn y Trallwng farchnad ddefaid, a gynhelir bob dydd Llun, yw'r mwyaf o'i fath yn Ewrop.[1] Tua milltir o'r dref saif Castell Powys, a godwyd yn wreiddiol gan y Tywysogion Cymreig yn y 13g. Cysegrir y ddwy eglwys i sant Cynfelyn.

Neuadd y Dref, Y Trallwng

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae ffiniau plwyf Eglwys St Cynfelin fwy neu lai'n dilyn hen ffiniau cwmwd Ystrad Marchell, o fewn cantref Ystlyg yn Nheyrnas Powys.[2][3]

Am gyfnod byr, o tua 1212, y Trallwng oedd prifddinas Powys Wenwynwyn (sef de Powys).

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Y Trallwng (pob oed) (6,664)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Y Trallwng) (785)
  
12.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Y Trallwng) (2876)
  
43.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Y Trallwng) (1,105)
  
37.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
5%

Oriel[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. References Wales gan John May; Gwasg Prifysgol Cymru.
  2. "Historical Settlement Survey - Montgomeryshire - Welshpool". CPAT. http://www.cpat.org.uk/ycom/mont/welshpool.pdf.
  3. "Montgomeryshire Churches Survey - Church of St Mary, Welshpool". CPAT. http://www.cpat.demon.co.uk/projects/longer/churches/montgom/16973.htm.
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:


CymruPowys.png Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.