Pen-y-bont-fawr

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Pen-y-bont-fawr
Math Pentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Powys Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.8°N 3.4°W Edit this on Wikidata

Pentref a chymuned ar lawr gwastad Dyffryn Tanat ym Mhowys, yw Pen-y-bont-fawr, weithiau Penybontfawr (yr hen enw: "Bont Fawr")[1]. Saif ar lan Afon Tanad, i'r gogledd-orllewin o bentref Llanfyllin ar y ffordd B4396. Brodorion o Ben-y-bont-fawr oedd Nansi Richards (Telynores Maldwyn) a Robert Ellis (Cynddelw).

Yn ogystal â phentref Pen-y-bont-fawr, mae'r gymuned yn cynnwys pentref Hirnant, prif bentref yr ardal yn wreiddiol. Roedd y boblogaeth yn 2011 yn 440.

Codwyd Eglwys Sant Tomos ar gyrion y pentref yng nghanol y 19g, ac mae'r pentref cyfan yn dyddio o'r un ganrif. Tyfodd o ganlyniad i groesffordd bwysig: y lôn o Orllewin Cymru i Groesoswallt yn nadreddu o'r gorllewin i'r dwyrain, ac yn ei groesodi: y ffordd o'r Bala i'r Amwythig. Fodd bynnag, ceir nifer o ffermydd hynafol iawn yn yr ardal, gan gynnwys: Peniarth-uchaf gyda'i nenfforch o'r 15g neu ffermdy Penybont ei hun, sy'n dyddio'n ôl i'r 17g. Codwyd yr eglwys leol yn 1855.

Pen-y-bont-fawr tua 1885
Eglwys Sant Tomos
Teulu o feddau yn y fynwent

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Pen-y-bont-fawr (pob oed) (440)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Pen-y-bont-fawr) (213)
  
50%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Pen-y-bont-fawr) (173)
  
39.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Pen-y-bont-fawr) (62)
  
32.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan CPAT; adalwyd 26 Medi 2014.
  2. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  3. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  4. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.