Llandysilio, Powys

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Llandysilio
Tysilio Church - geograph.org.uk - 51747.jpg
Mathcymuned, pentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.7661°N 3.0864°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000295 Edit this on Wikidata
Map
Am lleoedd eraill o'r enw "Llandysilio", gweler Llandysilio (gwahaniaethu).

Pentref a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Llandysilio. Saif yn yr hen Sir Drefaldwyn, ar lan dwyreiniol Afon Efyrnwy a ger y briffordd A483 rhwng Croesoswallt a'r Trallwng. Mae bron ar y ffin a Lloegr.

Dyddia'r eglwys, sydd wedi ei chysegru i Sant Tysilio, o 1868, ond awgryma'r fynwent gron fod y safle yn un hynafol.

Heblaw pentref Llandysilio, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Four Crosses. Ceir bryngaer Bryn Mawtr o fewn y gymuned, a gweddillion castell mwnt a beili yn Four Crosses. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 962.

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llandysilio, Powys (pob oed) (1,122)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llandysilio, Powys) (127)
  
11.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llandysilio, Powys) (309)
  
27.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llandysilio, Powys) (155)
  
32.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Elias Owen (1833 - 1899), hynafiaethydd a chasglwr llên gwerin Cymreig, awdur Welsh Folklore (1899).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.