Llywel

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llywel

Pentref a chymuned ym Mhowys, yw Llywel. Saif ger y briffordd A40 i'r gorllewin o Bontsenni. Heblaw pentref Llywel, mae'r gymuned yn cynnwys pentref Trecastell. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 524.

Yn Eglwys Dewi Sant, sy'n enghraifft o bensaernïaeth Berpendicwlar Gothig, ceir carreg ag arysgrifen Ogam arni. Mae Carreg Llywel, sydd hefyd yn dwyn arysgrifen Ogam, yn awr yn yr Amgueddfa Brydeinig. Yn y fynwent, mae David Owen (Brutus) wedi ei gladdu.

Ardal fynyddig yw'r gymuned, yn cynnwys Fan Brycheiniog, copa uchaf y Mynydd Du, a Llyn y Fan Fawr.

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llywel (pob oed) (497)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llywel) (125)
  
25.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llywel) (342)
  
68.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llywel) (56)
  
26.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.