Pennant Melangell

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cyfesurynnau: 52°49′36″N 3°26′53″W / 52.826767°N 3.448117°W / 52.826767; -3.448117

Pennant Melangell
Pennant Melangell is located in Powys
Pennant Melangell

 Pennant Melangell yn: Powys
Cyfeirnod grid yr AO SJ02NW42
    - Caerdydd 93.7 mi (150.8 km)  
    - Llundain 167.7 mi (269.9 km)  
Cymuned Llangynog
Sir Powys
Gwlad Cymru
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Heddlu Dyfed-Powys
Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru
Ambiwlans Cymru
Senedd yr Undeb Ewropeaidd Cymru
Senedd y DU Maldwyn
Cynulliad Cymru Maldwyn
Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Powys

Pentref bychan yng nghymuned Llangynog ym Maldwyn, Powys, yw Pennant Melangell, sydd 93.7 milltir (150.9 km) o Gaerdydd a 167.7 milltir (269.8 km) o Lundain. Gorwedd ym mhen uchaf Cwm Pennant tua 2.5 milltir i'r gorllewin o bentref Llangynog. Gorweddai yng nghantref Mochnant yn yr Oesoedd Canol.

Mae afon Tanad, sy'n rhedeg trwy'r cwm, yn tarddu yn uchel ar y bryniau i'r gorllewin o Bennant Melangell ar lethrau dwyreiniol Cyrniau Nod.

Dylid darllen yr erthygl hwn ynghyd testun Santesau Celtaidd 388-680

Eglwys Pennant Melangell[golygu | golygu cod y dudalen]

Eglwys Pennant Melangell

Enwir y pentref ar ôl Santes Melangell c.575-641, [1][1] nawddsant y plwyf. Yn ôl traddodiad, roedd yn enedigol o Iwerddon ond fagwyd hi yng Ngwynedd yn ferch Eithni Wyddeles a Cyfwlch Addfwyn . Ffôdd i osgoi priodas oedd wedi ei threfnu iddi gan ei thad, a daeth i Bowys i fyw yng Nghwm Pennant. Un diwrnod, tua 604, daeth Brochwel (Brochfael), pennaeth Powys, (Brochwel Ysgithrog efallai) i'r dyffryn i hela. Ymlidiodd ei gŵn hela ysgyfarnog, a rhedodd at Felangell a llochesu dan ei gwisg. Gwnaeth hyn ddigon o argraff ar Brochwel nes peri iddo roi'r tir yn y cwm iddi, a elwir yn awr yn Bennant Melangell. Daeth Melangell yn arweinydd Cymuned Cristnogol bychan yno.[2]

Cell Melangell ar seiliau 10ed canrif

Yn yr hen eglwys, a gysegrir i'r santes, gellir gweld creirfa Melangell, sydd wedi ei hail-adeiladu wedi iddi gael ei dinistrio adeg y Diwygiad Protestannaidd ac sy'n un o'r esiamplau gorau o'i fath ym Mhrydain ac yn unigryw yn ei chynllun. Ceir cerfluniau o sgwarnogod ar ysgrîn y Grog. Codwyd yr adeilad bresennol yn y 12g. Ychwanegodd cell haner gron a elwir "Cell y Bedd" ar seiliau o'r 10fed canrif yn yr 20ed canrif. Credir fod Melangell wedi claddu yno. Amgylchynir yr eglwys gan llan fawr sy'n cynnwys coed yw hynafol, rhai ononynt yn fwy na 2000 oedsy'n awgrymu fod y safle yn gyn-Gristnogol.[1]

Roedd yr eglwys yn gyrchfan boblogaidd i bererinion yn yr Oesoedd Canol. Gyda twf mewn diddordeb yn yr amgylfyd yn ail haner yr ugeinfed canrif daeth Melangell yn santes poblogaidd unwaith eto yng Nghymru fel nawdd santes bywyd gwyllt a'r amgylchfyd naturiol.[1] Yn ddiweddar mae Cyngor Sir Powys wedi creu llwybr "Pererindod Melangell" yn arwain yno.[3]

Cynrychiolaeth etholaethol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cynrychiolir Pennant Melangell yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Russell George (Ceidwadwyr) a'r Aelod Seneddol yw Glyn Davies (Ceidwadwyr).[4][5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Tomos R, 1995, Melangell, Benywdod a Duw (cylchgrawn)
  2. C. A. Ralegh Radford, 'Pennant Melangell: The Church and the Shrine', Archaeologia Cambrensis, CVIII, 1959.
  3. T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoediadau Glyn Dŵr, 2001)
  4. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  5. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: