Abades

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Pennaeth ar gymuned o leianod sy'n byw mewn abaty a'i swydd yn cyfateb i swydd abad yw abades.[1] Fel teitl mae'r term yn tueddu i gael ei gyfyngu i'r Gristnogaeth, ond gelwir penaethiaid abatai Bwdhaidd yn abadesau hefyd weithiau, er enghraifft yn achos Bwdhaeth Tibet.

Yn yr Eglwys Geltaidd, penaethes ar gyd-gymuned o fynachod a lleianod oedd abades. Daethpwyd â'r arfer hon i'r cyfandir gan genadaethau Celtaidd i Ffrainc a Sbaen, ac hyd yn oed i Rufain. Yn 1115 cyflwynodd Robert d'Arbrissel, sefydlwr Abaty Fontevraud, holl weinyddiaeth yr urdd honno i abades.

Yn sgil y Diwygiad Protestannaidd yn yr Almaen, goroesai'r teitl abades (Almaeneg: Aebtissin) i ddynodi'r penaethiaid ar abatai sydd wedi cadw hen arferion y Stifte, hynny yw yr eglwysi colegaidd sydd yn rhoi llety i ferched dibriod, fel arfer o dras fonheddig, ac yn darparu incwm iddynt. Yn hanesyddol rhoddir y swydd honno i dywysoges o un o'r teuluoedd brenhinol Almaenig.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1.  abades. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 17 Hydref 2019.