Yr Eglwys Geltaidd

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Croes Geltaidd gynnar yn Inis Mór, Iwerddon.

Enw ar Gristnogaeth y mileniwm cyntaf yn y gwledydd lle siaredid yr ieithoedd Celtaidd yw'r Eglwys Geltaidd. Defnyddir i gyfeirio at yr eglwysi yng ngwledydd y Gaeliaid (Iwerddon, yr Alban ac Ynys Manaw) a'r Brythoniaid (Cymru, Cernyw a Llydaw).

Sefydlwyd yr eglwysi cyntaf yn Ynysoedd Prydain ac Iwerddon yn yr 2g neu'r 3g, yn y cyfnod cyn Cyngor Cyntaf Nicaea a elwir oes yr Eglwys Fore, ac ymledodd y ffydd yn sgil Cristioneiddio'r Ymerodraeth Rufeinig. Er i gwymp y Rhufeiniaid arwain at ddyfodiad i baganiaeth mewn rhannau eraill Ewrop, goroesodd Gristnogaeth ym Mhrydain ac Iwerddon yn yr Oesoedd Canol Cynnar.

Defnyddid y term "yr Eglwys Geltaidd" yn gyntaf gan William Salesbury yn yr 16g, a mynnai Salesbury, yr Esgob Richard Davies, a Phrotestaniaid eraill wrthgyferbynnu purdeb yr Eglwys Fore yng ngwledydd Prydain ac Iwerddon ag amhurdeb gweddill y byd Cristnogol. Roedd eu dadleuon dros fodolaeth yr Eglwys Geltaidd yn pwysleisio fod cynseiliau'r Diwygiad Protestanaidd yn yr eglwysi a fodolai yn y gwledydd hyn cyn y gyfundrefn Rufeinig.

Mynn rhai ysgolheigion nad oedd y fath beth yn bodoli, ond fod nifer o nodweddion yn gyffredin rhwng y gwledydd Celtaidd, nad oedd ar gael yn unman arall nac o fewn yr Eglwys Gatholig Rufeinig. Daeth pobl o wahanol enwad i ddefnyddio'r term, gan gynnwys Nora Chadwick, Kenneth Jackson a Caitlin Corning, a thyfodd ei boblogrwydd gan grwpiau a ddymunai weld y "teulu Celtaidd" yn un. Ar y llaw arall, ceir dadleuwyr cryf yn erbyn bodolaeth eglwys Geltaidd gan nifer o Saeson, a gwell ganddynt yw defnyddio'r term Insular Christianity yn hytrach na Celtic Church. Y term Almaeneg am yr Eglwys Geltaidd yw Iroschottisch, hynny yw Gwyddelig-Albanaidd. Mae'r rhan fwyaf o academyddion, bellach, yn gytun nad oedd yr Eglwys Geltaidd yn endid fonolithig, gwrth-Babyddol, ond yn hytrach fod gan yr eglwysi yn yr ardaloedd Celtaidd eu hiaith gysylltiad clos â'i gilydd, a nifer o draddodiadau neu nodweddion gwahanol iawn i Rufain.

Y cyswllt clos a'r traddodiad holl-Geltaidd[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd cysylltiad agos a chlos rhwng yr eglwysi Celtaidd eu hiaith. O Gymru y daeth llawer o genhadon cynnar Iwerddon ac oddi yno y teithiodd llawer i'r Alban. O Gernyw a Chymru hefyd y daeth llawer o genhadon a deithiodd i Lydaw.

Ymhlith nodweddion y Cristnogion Celtaidd a oedd yn wahanol i'r Pabyddion, roedd trefn wahanol o gyfrifo union ddyddiad y Pasg, diffyg hierarchaeth eglwysig clir (e.e. rhoed pwyslais ar yr abad yn hytrach nag ar yr esgob), a steil gwallt y mynachod. Ysgirfennwyd yn y 7g: "Britones toti mundo contrarii, moribus Romanis inimici, non solum in missa sed in tonsura etiam" ("Mae'r Brythoniaid yn gwbwl wahanol i weddill y byd, ac yn elyniaethus i arferion Rhufain, nid yn unig yn y gwasanaethau, ond hefyd yn eu gwallt (hynny yw, y tonsur).")[1] Noder yr Eglwys Geltaidd hefyd am amgylchfyd gwledig yr eglwysi a pherthynas agos â natur, a phwyslais ar asgetigiaeth.[2]

Yr oedd hefyd arferion cyffredinol o benyd, sef hunan-gosb wirfoddol a wneir fel iawn am bechod neu drosedd. Cyflwynodd Columbanus penyd corfforol, y medicamenta paentitentiae, ac roedd yn arferiad i benyd gael ei wneud yn breifat o fewn yr Eglwys Geltaidd yn hytrach na thrwy wisgo sach liain a lludw, yn gyhoeddus. Erbyn 1215 roedd penyd tawel i'r offeiriad wedi ei dderbyn ym mhob rhan o'r Eglwys Gatholig.[3] Yn yr ardaloedd Celtaidd eu hiaith daeth y peregrinatio pro Christo ("alltud dros Grist") yn boblogaidd. Roedd yr alltudiaeth hwn yn wirfoddol, a gellid symud o ardal, neu hyd yn oed wlad.

Hanes yn ôl gwlad[golygu | golygu cod y dudalen]

Cymru[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafodd Gymru ei Gristioneiddio yn gynnar yn hanes y genedl Gymreig. Ymledodd y ffydd o'r de ddwyrain, adeg y goncwest Rufeinig, a goroesodd yr eglwys yng Nghymru trwy Oes y Seintiau, o'r 5g i'r 8g. Adeiladwyd y Gymru Gristnogol ar seiliau'r hen grefydd Geltaidd: newidiwyd meini hirion yn groesau, cysegrwyd ffynhonnau a chysegroedd paganaidd i ffigurau Cristnogol, a chodwyd mannau addoli ar safleoedd cylchoedd cerrig. Datblygodd grefydd oedd yn unigryw i'r Cymry, drwy drefn y clas a'r llan a'r mwyafrif o eglwysi yn gysylltiedig â seintiau lleol neu genedlaethol. Goroesodd yr Eglwys Geltaidd yng Nghymru hyd at oresgyniadau'r Normaniaid yn yr 11g.

Lloegr[golygu | golygu cod y dudalen]

Er i ddiwylliant a chymdeithas y Brythoniaid yn Lloegr gael eu gorchfygu gan yr Eingl-Sacsoniaid, bu'r Eglwys Geltaidd yn ddylanwadol wrth Gristioneiddio'r bobl honno yn y 7g, er i Rufain ennill y dydd drwy genhadaeth y Pab Honorius I.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. A. W. Haddan a W. Stubbs (gol.), Councils and Ecclesiastical Documents Relating to Great Britain and Ireland, 3 chyfrol (Rhydychen, 1869–78), cyfrol I, tt. 112–3
  2. John Davies et al. Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2008) t. 323.
  3. John T. McNeil a Helena M. Gamer (gol.), Medieval Handbooks of Penance (Efrog Newydd: Columbia University Press, 1938).