Llanwnnog

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref bychan gwledig a phlwyf ym Mhowys yw Llanwnnog (hefyd 'Llanwnog'). Fe'i lleolir yn ardal Maldwyn ger yr A470, tua 6 milltir i'r gorllewin o'r Drenewydd.

Cyflwynir eglwys y plwyf i Sant Gwynno (ceir sawl ffurf ar yr enw, yn cynnwys Gwn[n]og).

Yn yr Oesoedd Canol roedd yn rhan o gwmwd Arwystli. Roedd y bardd Llywelyn ab y Moel (bl. tua 1395 - 1440), a adnabyddir hefyd fel Llywelyn ap Moel y Pantri, yn frodor o Lawnnog, yn ôl pob tebyg, ac mae'n bosibl y ganed ei fab Owain ap Llywelyn ab y Moel yno hefyd.

Mae'n bosibl mai yn Llanwnnog, plwyf enedigol ei dad, y ganed yr argraffydd a gwerthwr llyfrau Stafford Prys (1732-1784).


CymruPowys.png Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.