Stafford Prys

Oddi ar Wicipedia
Stafford Prys
Ganwyd1732 Edit this on Wikidata
Llanwnnog Edit this on Wikidata
Bu farw1784 Edit this on Wikidata
Man preswylAmwythig Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethllyfrwerthwr, argraffydd Edit this on Wikidata

Argraffydd a gwerthwr llyfrau oedd Stafford Prys (1732 - 1784). Yn ei gyfnod ef, prin oedd y llyfrau a argraffwyd yng Nghymru a daeth gwasg Prys yn Amwythig yn un o brif argraffweisg Cymraeg y 18g, yn enwedig ar gyfer Gogledd Cymru.

Cymro oedd Prys, yn fab i'r meddyg Stafford Price o blwyf Llanwnnog, Maldwyn a'i wraig Mary Evans, o dras teulu Stradlingiaid Morgannwg. Ni wyddys os cafodd ei eni yng Nghymru neu yn Swydd Amwythig. Treuliodd ran helaeth ei oes dros y ffin yn Amwythig lle sefydlodd siop lyfrau a hefyd argraffwasg, a sefydlodd yn 1758. Priododd Ann (1737-1826), merch Thomas Bright o Amwythig. Ar ôl marwolaeth Prys yn 1784 parhaodd ei weddw i redeg y busnes teuluol am gyfnod.[1]

Llyfrau[golygu | golygu cod]

Gorchestion Beirdd Cymru. Wynebddalen argraffiad 1773

Ymhlith y llyfrau a phamffledi niferus a argaffwyd ganddo, gellir nodi:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Y Bywgraffiadur Ar-lein
  2. William Rowlands, Llyfryddiaeth y Cymry (1869).

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Ifano Jones, A history of printing and printers in Wales to 1810, and of successive and related printers to 1923 (1925)
  • Llewelyn C. Lloyd , 'The Book-Trade in Shropshire', Transactions of the Shropshire Archaeological and Natural History Society (1935, 1936).