Llansilin

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Canol Llansilin

Pentref, cymuned, a phlwyf eglwysig ym Mhowys ydy Llansilin, tua 6 milltir i'r gorllewin o Croesoswallt, yng Nglyn Ceiriog. Oherwydd i ardaloedd gweinyddol Cymru gael eu hail-drefnu sawl gwaith, roedd y capel yn Sir Ddinbych hyd 1974 ac yng Nghlwyd rhwng 1974 ac 1996. Erbyn heddiw, mae ym Mhowys, yn dilyn symud y ffin yn 1996.

Capel[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae capel Llansilin wedi ei chysegru i Sant Silin. Mae'r rhan gynharaf o'r adeilad presennol yn dyddio i'r 13g, er bod capel ar y safle am gyfnod hir cyn hynny. Mae'r rhan fwyaf o'r adeilad yn dyddio i'r 15g. Dinistrwyd y clochdy gwreiddiol gan dân, ac adeiladwyd y clochdy presennol yn 1832. Cyflawnwyd gwaith adnewyddu yn ystod 1889/1890, ac ail-agorwyd y capel ym Mehefin 1890.

Eos Ceiriog[golygu | golygu cod y dudalen]

Treuliodd y bardd Huw Morus (Eos Ceiriog) (1622-1709) rhan helaeth ei oes ar fferm Pont-y-meibion yn y plwyf. Ceir cofeb iddo wedi'i gosod ym mur yr hen ffermdy. Am fod y ffermdy mewn tafod o'r plwyf sy'n ymestyn i blyfi cyfagos, arferai cerdded dros y bryn bob dydd Sul i addoli yn eglwys ei blwyf ei hun.[1]

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llansilin (pob oed) (698)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llansilin) (184)
  
26.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llansilin) (222)
  
31.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llansilin) (82)
  
29.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
5%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Frank Price Jones, Crwydro Dwyrain Dinbych (Cyfres Crwydro Cymru, 1961).
  2. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  3. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  4. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.