Walton, Powys

Oddi ar Wicipedia
Walton, Powys
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.2305°N 3.0897°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJames Evans (Ceidwadwyr)
AS/auFay Jones (Ceidwadwyr)
Map
Am leoedd eraill o'r un enw gweler Walton.

Pentref yng nghymuned Pencraig, Powys, Cymru, yw Walton. Nid ymddengys fod enw Cymraeg iddo; daw'r enw o'r Eingl-Sacsoneg Wealas-tun; "tref y Brythoniaid" neu "tref y Cymry". Saif rhwng Maesyfed a Llanandras, ar y briffordd A44 ac ychydig i'r gorllewin o'r ffîn a Lloegr.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[1] ac yn Senedd y DU gan Fay Jones (Ceidwadwyr).[2]

Hanes[golygu | golygu cod]

Cafwyd hyd i balisâd mawr o goed o'r cyfnod Neolithig yn Walton yn ddiweddar, sy'n un o'r darganfyddiadau pwysicaf o'r cyfnod hwn yng Nghymru. Gerllaw mae pedair maen hir, 5 - 6 troedfedd o daldra, a elwir yn "Four Stones".

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-30.
  2. Gwefan Senedd y DU
Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.