Tirabad
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.0589°N 3.6372°W ![]() |
![]() | |
Pentref bychan yn ne-orllewin sir Powys yw Tirabad. Mae'n gorwedd ar lan ffrwd fechan Afon Dulas sy'n llifo i'r gogledd i ymuno yn Afon Irfon. Fe'i lleolir yn y bryniau tua 4 milltir i'r de o Lanwrtyd ac 8 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Lanymddyfri.
I'r dwyrain o'r pentref ceir bryniau moel Mynydd Epynt. I'r gorllewin ceir Coedwig Crychan. Rhed ffyrdd mynyddig o'r pentre i Gynghordy yn y gorllewin a Llangamarch i'r gogledd.
Cafodd y pentref yr enw Tirabad (cywasgiad o'r enw 'Tir yr Abad') pan roddwyd grant helaeth o dir yno i Abaty Ystrad Fflur gan yr Arglwydd Rhys ap Gruffudd, Tywysog Deheubarth, yn y flwyddyn 1164. Mae'n gorwedd ym mhlwyf gwledig Llanddulas. Am i eglwys newydd gael ei chodi yno yn 1756 ceir y ffurf 'Yr Eglwys Newydd yn Llanddulas' mewn hen ddogfennau. Enw amgen arall oedd 'Aberdulas'.
Fel yn achos sawl cymuned arall yn ardal Mynydd Eppynt, gorfodwyd y rhan fwyaf o'r trigolion i adael y pentref yn yr Ail Ryfel Byd am fod y Fyddin Brydeinig wedi dewis Mynydd Eppynt ar gyfer tir ymarfer saethu. Mae rhan helaeth Mynydd Eppynt yn dal i gael ei nodi fel Ardal Peryglus i'r cyhoedd hyd heddiw, ond adfywiodd y pentref yn y 1950au, pan blanwyd coed gan y Comisiwn Coedwigaeth a chodwyd 25 o dai newydd, ysgol, neuadd pentref a siop i'r gweithwyr.
Ffynonellau[golygu | golygu cod y dudalen]
- Samuel Lewis, A Topographical Dictionary of Wales, cyfrol II (1836)
Abaty Cwm-hir · Aberbrân · Abercegir · Abercraf · Aberedw · Abergwesyn · Abergwydol · Aberhafesb · Aberhonddu · Aberhosan · Aberllynfi · Aber-miwl · Aberriw · Abertridwr · Aberysgir · Adfa · Arddlin · Bachelldref · Y Batel · Betws Cedewain · Beulah · Bochrwyd · Bontdolgadfan · Bontnewydd ar Wy · Bronllys · Bugeildy · Burgedin · Bwlch · Caersŵs · Capel Isaf · Capel Uchaf · Capel-y-ffin · Carno · Casgob · Castell Caereinion · Castell Madog · Castell Paun · Cathedin · Cefn Cantref · Cefn-gwyn · Cegidfa · Cemais · Ceri · Cilmeri · Y Clas-ar-Wy · Clatter · Cleirwy · Cnwclas · Coelbren · Commins Coch · Crai · Craig-y-nos · Crucywel · Crugion · Cwmdu · Cwm-twrch · Cwrt-y-gollen · Darowen · Defynnog · Derwen-las · Dolanog · Dolfor · Y Drenewydd · Dylife · Einsiob · Eisteddfa Gurig · Erwd · Esgairgeiliog · Felindre, Maldwyn · Felin-fach · Y Foel · Ffordun · Ffrwdgrech · Gaer · Garth · Y Gelli Gandryll · Glangrwyne · Glan-miwl · Glantwymyn · Glascwm · Y Groes · Gwenddwr · Heol Senni · Hyssington · Kingswood · Kinnerton · Libanus · Llan · Llanafan Fawr · Llanandras · Llananno · Llanarmon Mynydd Mawr · Llanbadarn Fynydd · Llanbadarn Garreg · Llanbister · Llanbrynmair · Llandinam · Llandrindod · Llandrinio · Llandyfaelog Tre'r-graig · Llandysilio · Llandysul · Llan-ddew · Llanddewi yn Hwytyn · Llanddewi Ystradenni · Llanelwedd · Llanerfyl · Llanfair Caereinion · Llanfair Llythynwg · Llanfair-ym-Muallt · Llanfechain · Llanfihangel Nant Brân · Llanfihangel Nant Melan · Llanfihangel Rhydieithon · Llanfihangel Tal-y-llyn · Llanfihangel-yng-Ngwynfa · Llanfrynach · Llanfyllin · Llangadfan · Llangadwaladr · Llangamarch · Llangasty Tal-y-llyn · Llangatwg · Llangedwyn · Llangors · Llangurig · Llangynidr · Llangynllo · Llangynog · Llangynyw · Llanhamlach · Llanidloes · Llanigon · Llanllugan · Llanllwchaearn · Llanllŷr-yn-Rhos · Llanrhaeadr-ym-Mochnant · Llansanffraid Cwmdeuddwr · Llansantffraed (Aberhonddu) · Llansantffraed-yn-Elfael · Llansantffraid-ym-Mechain · Llansilin · Llanwddyn · Llanwnnog · Llanwrin · Llanwrthwl · Llanwrtyd · Llanwyddelan · Llanymynech · Llanywern · Llawr-y-glyn · Llechfaen · Llowes · Llys-wen · Llywel · Llwydiarth · Machynlleth · Manafon · Meifod · Merthyr Cynog · Mochdre · Nant Glas · Nantmel · Pandy · Pencelli · Pencraig · Penegoes · Pengefnffordd · Penisarcwm · Pennant Melangell · Pentrecelyn · Pentref Dolau Honddu · Pentrefelin · Penwyllt · Penybont · Pen-y-bont-fawr · Pilalau · Pipton · Pont-faen · Pont Llogel · Pontneddfechan · Pontrobert · Pontsenni · Pwllgloyw · Rhaeadr Gwy · Sant Harmon · Sarn · Sarnau, Brycheiniog · Sarnau, Maldwyn · Sgethrog · Snead · Sycharth · Talachddu · Talerddig · Talgarth · Tal-y-bont · Tal-y-bont ar Wysg · Tirabad · Trallong · Y Trallwng · Trecastell · Trefaldwyn · Trefeca · Trefeglwys · Tref-y-clawdd · Tregynon · Trelystan · Tre'r-llai · Tretŵr · Trewern · Walton · Yr Ystog · Ystradgynlais