Abaty Ystrad Fflur
Math | abaty ![]() |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Ystrad Fflur ![]() |
Sir | Ystrad Fflur ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 194 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 52.2754°N 3.83827°W ![]() |
Rheolir gan | Cadw ![]() |
![]() | |
Arddull pensaernïol | pensaernïaeth Sistersaidd ![]() |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I ![]() |
Manylion | |
Deunydd | calchfaen ![]() |
- Erthygl am yr abaty yw hon, am y gymuned gweler Ystrad-Fflur.
Hen abaty Sistersiaidd yw Abaty Ystrad Fflur (Lladin: Strata Florida). Fe'i lleolir ger Pontrhydfendigaid yng ngogledd Ceredigion.
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Roedd y Sistersiaid, neu'r mynaich gwynion, yn gymuned fugeiliol, yn gwarchod defaid a gwartheg ar eu hystadau er mwyn cynnal eu cymuned grefyddol a diwylliannol.
Nid oes sicrwydd ynglŷn ag union ddyddiad sefydlu'r abaty, ond dywedir iddo gael ei sefydlu o gwmpas y flwyddyn 1164, dan nawdd yr Arglwydd Rhys, tywysog Deheubarth. Ffynnai'r sefydliad yn y 12g fel canolfan diwylliant a pheth gyfoeth; yma hefyd y cyfansoddwyd un fersiwn o'r cronicl enwog Brut y Tywysogion. Galwodd Gerallt Gymro a Baldwin, Archesgob Caergaint yn Ystrad Fflur yng ngwanwyn 1188 ar eu taith trwy Gymru. Teithiasant yno o Bont Steffan. Dywed Gerallt eu bod wedi treulio'r nos yn yr abaty ond yn anffodus nid yw'n manylu ar y croeso a gafwyd. Roedd yr abad Seisyllt yn ddigon da i dywys y ddau ar weddill eu ffordd i'r gogledd.[1]
Dioddefodd yr abaty beth difrod yn ystod rhyfeloedd y 13g; yn arbennig gan ymgyrchoedd Edward I, brenin Lloegr, yn erbyn Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru. Yn fuan wedyn, difrodwyd rhan o'r abaty gan dân a achoswyd gan fellten. Gwanwyd y sefydliad gan y trychinebau hyn, ac yn diweddarach gan y Pla Du, ac mae'n ymddangos nad adferwyd y niferoedd ynddo.
Dywedir i'r bardd Dafydd ap Gwilym gael ei gladdu yma ym 1380 dan ywen hynafol sydd yn parhau i dyfu yno heddiw.
Erbyn y 15g, fe ddioddefodd yr abaty o weithgareddau milwrol y Saeson yng Nghymru, a lleihawyd y gymuned i saith mynach. Diddymwyd yr abaty ym 1539 fel rhan o ymgyrch Diddymu'r Mynachlogydd gan Harri VIII, brenin Lloegr. Gwerthwyd rhai o'r tiroedd amaethyddol, a throsglwyddwyd tir yr abaty i deulu Stedman. Yn y cyfnod hwn, dymchwelwyd rhannau sylweddol o'r adeiladau a defnyddiwyd y cerrig at ddibenion adeiladu eraill.
Yn y 19g, tyfodd diddordeb yn yr adfeilion fel atyniad i deithwyr, yn arbennig dan ddylanwad Stephen Williams, y peiriannydd rheilffyrdd.
Y Groes[golygu | golygu cod y dudalen]
Ceir yma hefyd groes eglwysig a gerfiwyd o garreg yn y Canol Oesoedd ac a leolwyd y tu allan i'r wal allanol; cyfeiriad grid SN746657. Mae hi'n 1.5 metr o uchder, .05m o led a thewder o 0.12m.[2]
Cofrestwyd yr heneb hon gan Cadw gyda rhif SAM: CD060.[3]
Etifeddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae adfeilion yr abaty wedi ysbrydoli sawl llenor. Y gerdd enwocaf amdano, efallai, yw 'Ystrad Fflur' gan T. Gwynn Jones, a gyhoeddwyd am y tro cyntaf yn 1926 ac ddaeth yn ddarn adrodd cyfarwydd i blant ysgol ledled Cymru. Dyma'r ddau bennill cyntaf:
- Mae dail y coed yn Ystrad Fflur
- Yn murmur yn yr awel,
- A deuddeng Abad dan y gro
- Yn huno yno'n dawel.
- Ac yno dan yr ywen brudd
- Mae Dafydd bêr ei gywydd,
- A llawer pennaeth llym ei gledd
- Yn ango'r bedd tragywydd.[4]
Heddiw[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae adfeilion yr abaty yng ngofal Cadw ac yn agored i'r cyhoedd am dâl yn yr haf ac am ddim yn y gaeaf. Mae'r mynediad oddi ar y ffordd B4343.
Rhan fwyaf trawiadol yr abaty, y rhan sydd wedi goroesi orau, a'r ddelwedd a ddefnyddir yn fwyaf cyffredin ohono, yw'r porth gorllewinol. Mae'n nodedig oherwydd ei saernïaeth gain. Mae hefyd yn bosibl gweld olion seiliau'r abaty cyfan a chael syniad o ddyluniad y cyfan. Mae rhywfaint o'r addurniadaeth a rhai teiliau llawr addurnedig wedi goroesi.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Thomas Jones (gol.), Hanes y Daith Trwy Gymru, pennod IV.
- ↑ "Gwefan Coflein". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-09-16. Cyrchwyd 2010-10-19.
- ↑ Data Cymru Gyfan, CADW
- ↑ T. Gwynn Jones, 'Ystrad Fflur', Caniadau (Wrecsam, 1934).
Ffynonellau[golygu | golygu cod y dudalen]
- David M. Robinson & Colin Platt, Strata Florida Abbey, Talley Abbey CADW, 1992 ISBN 1-85760-106-8
Darllen Pellach[golygu | golygu cod y dudalen]
J. Beverley Smith a W.G Thomas Abaty Ystrad Fflur HMSO, 1977
Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- Safle Cadw Archifwyd 2007-06-12 yn y Peiriant Wayback.
- 'Castlewales'
- Casglu'r Tlysau: Llun o'r awyr Archifwyd 2007-03-10 yn y Peiriant Wayback.
- Casglu'r Tlysau: Teilsen llawr Archifwyd 2007-03-10 yn y Peiriant Wayback.
Trefi
Aberaeron ·
Aberteifi ·
Aberystwyth ·
Ceinewydd ·
Llanbedr Pont Steffan ·
Llandysul ·
Tregaron
Pentrefi
Aberarth ·
Aber-banc ·
Aber-ffrwd ·
Abermagwr ·
Abermeurig ·
Aberporth ·
Adpar ·
Alltyblaca ·
Betws Bledrws ·
Betws Ifan ·
Betws Leucu ·
Bethania ·
Beulah ·
Blaenannerch ·
Blaenpennal ·
Blaenplwyf ·
Blaenporth ·
Y Borth ·
Bow Street ·
Bronant ·
Bwlch-llan ·
Capel Bangor ·
Capel Cynon ·
Capel Dewi ·
Capel Seion ·
Caerwedros ·
Castellhywel ·
Cellan ·
Cilcennin ·
Ciliau Aeron ·
Clarach ·
Cnwch Coch ·
Comins Coch ·
Cribyn ·
Cross Inn (1) ·
Cross Inn (2) ·
Cwm-cou ·
Cwmystwyth ·
Cwrtnewydd ·
Dihewyd ·
Dôl-y-bont ·
Eglwys Fach ·
Felinfach ·
Y Ferwig ·
Ffair-rhos ·
Ffostrasol ·
Ffos-y-ffin ·
Ffwrnais ·
Gartheli ·
Goginan ·
Y Gors ·
Gwbert ·
Henfynyw ·
Henllan ·
Horeb ·
Llanafan ·
Llanarth ·
Llanbadarn Fawr ·
Llandre ·
Llandyfrïog ·
Llanddeiniol ·
Llanddewi Brefi ·
Llanfair Clydogau ·
Llanfarian ·
Llanfihangel y Creuddyn ·
Llangeitho ·
Llangoedmor ·
Llangrannog ·
Llangwyryfon ·
Llangybi ·
Llangynfelyn ·
Llangynllo ·
Llanilar ·
Llanio ·
Llan-non ·
Llanrhystud ·
Llansantffraid ·
Llanwenog ·
Llanwnnen ·
Llechryd ·
Lledrod ·
Llundain-fach ·
Llwyncelyn ·
Llwyndafydd ·
Llwyn-y-groes ·
Morfa ·
Mwnt ·
Nanternis ·
Penbryn ·
Penparc ·
Penrhiwllan ·
Penrhyn-coch ·
Penuwch ·
Pen-y-garn ·
Plwmp ·
Pontarfynach ·
Ponterwyd ·
Pontgarreg ·
Pontrhydfendigaid ·
Pontrhydygroes ·
Pont-Siân ·
Rhydlewis ·
Rhydowen, Ceredigion ·
Rhydyfelin ·
Rhydypennau ·
Salem ·
Sarnau ·
Southgate ·
Swyddffynnon ·
Synod Inn ·
Talgarreg ·
Tal-y-bont ·
Temple Bar ·
Trefenter ·
Trefilan ·
Tremain ·
Tre-saith ·
Tre Taliesin ·
Troedyraur ·
Ysbyty Ystwyth ·
Ystrad Aeron ·
Ystrad Meurig ·
Ystumtuen