Castellhywel

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref bychan yn ne Ceredigion, Cymru, yw Castellhywel (neu Castell Hywel; ffurf Saesneg: Castell Howell). Mae'n gorwedd ar y B4459 tua 7 milltir i gyfeiriad y gorllewin o Lanbedr Pont Steffan a thua'r un pellter i'r de o Geinewydd.

Cysylltir y pentref â'r addysgwr a bardd David Davis (Dafis Castellhywel). Agorodd ei ysgol enwog yng Nghastellhywel tua 1782; cafodd nifer o bobl o deuluoedd blaenllaw addysg glasurol yno: daethwyd i'w hadnabod fel "Athen Ceredigion".


WalesCeredigion.png Eginyn erthygl sydd uchod am Geredigion. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.