David Davis (Dafis Castellhywel)
David Davis | |
---|---|
Ganwyd | 14 Chwefror 1745 Llangybi |
Bu farw | 1827 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd |
Plant | Timothy Davis, David Davis |
Addysgwr, pregethwr a bardd o Geredigion oedd David Davis (14 Chwefror 1745 – 3 Gorffennaf 1827), a adnabyddir fel Dafis Castellhywel (neu Dafis Castell Hywel). Roedd yn fawr ei barch a'i boblogrwydd tua diwedd yr 18g a dechrau'r ganrif olynol. Fe'i claddwyd ym mynwent eglwys Llanwenog.
Magwraeth ac addysg
[golygu | golygu cod]Ganed Dafis yn y Goetre Isaf ym mhlwyf Llangybi, ger Llanbedr Pont Steffan yn 1745, yr hynaf o saith o blant. Derbyniodd ei addysg gan David Jones (Llanybydder), T. Lloyd (Llangeler), Joshua Thomas (Ysgol Ramadeg Caerfyrddin) ac yng Ngholeg Caerfyrddin (1763-7), a bu'n athro cynorthwyol yn Ysgol y Coleg am ysbaid. Daeth dan ddylanwad Joseph Jenkins, prifathro'r Academi, a arddelai Undodiaeth. Ond nid aeth Dafis yn Undodiad ond yn hytrach arddelodd Ariadaeth. Ym Mhlasbach, Ciliau Aeron, priododd Anne Evans y Foelallt, ŵyres Sgwïer Davies, Plasbach.
Gwaith
[golygu | golygu cod]Ymsefydlodd fel gweinidog ym mhlwyf Ciliau Aeron. Oddeutu 1782 symudodd i ardal Castellhywel (lle cafodd ei lysenw), i weinyddu yn Llwynrhydowen a mannau eraill yn y cylch, yn cynnwys Alltyblaca. Agorodd ei ysgol enwog yng Nghastellhywel tua 1782; cafodd nifer o bobl o deuluoedd blaenllaw addysg glasurol yno: daethwyd i'w hadnabod fel "Athen Ceredigion". Bu'n cadw ysgol am dros 30 mlynedd, a daeth ei enw'n adnabyddus drwy Gymru; ordeinid offeiriaid o'i ysgol am flynyddoedd. Ceir enwau tua 111 o'i hen ddisgyblion yn danysgrifwyr Telyn Dewi.[1]
Cyfathrebai gydag gwŷr blaenllaw ei gyfnod, gan gynnwys y Dr Richard Price, Iolo Morganwg, Thomas Roberts, Llwyn'rhudol, John Jones (Jac Glan-y-gors), a Thomas Evans (Tomos Glyn Cothi) a throes lawer o wŷr ei ardal yn bleidwyr dros y Chwyldro Ffrengig. Yn 1801-2 bu anghydfod a rhwyg yn ei eglwysi, a chododd yr Undodaidd gapeli ym Mhantydefaid a Chapel-y-groes. Ymddiswyddodd Davis ar 16 Ionawr 1820 wedi gweinidogaethu am 52 o flynyddoedd.
Awdur
[golygu | golygu cod]Cyhoeddodd Bywyd Duw yn Enaid Dyn, cyfieithiad o lyfr Henry Scougal, The Life of God in the Soul of Man (1779), cyfieithiad o fyfyrdod ar einioes ac angau o waith Thomas Gray (1789), Cri Carcharor dan farn Marwolaeth (1792), ac yn 1824 cyhoeddwyd casgliad o'i weithiau barddonol dan yr enw Telyn Dewi.
Cyhoeddiadau ganddo
[golygu | golygu cod]- Anerch i'r Duwdodh.d.
- Bywyd Duw yn Enaid Dyn Caerfyrddin : Ioan Ross, 1789. 108 t.
- Cri Carcharorion dan Farn Marwolaeth Caerfyrddin, 1792. Caerfyrddin : B. Morris, 1818. 8 t. Repr. Caerfyrddin : John Davies, 1923. Ail. Arg. Llandysul : J.D. Lewis, 1906
- Cwymp Ffynnon Bedr h.d.
- Golwg ar Fangre ac Amser Mebyd h.d.
- Gwynfan h.d.
- Hanes o Garwriaeth, Priodas a Marwolaeth gwr ieuanc o Gymru Cyf. Gan David Davis. Caerfyrddin : J. Evans, 1807. 4 t. Argraffiad arall. Caerfyrddin : J. T. Jones h.d. 4 t.
- LlythyrYM, 1887 t. 265–7
- Marwnad a ysgrifennwyd mewn Mynwent yn y Wlad Cyf. Gan David Davis (Saesneg Gray). 3tdd arg. Abertawe : J. Harris.
- Myfrdod ar Einioes ac Angau a ysgrifennwyd mewn Mynwent yn y Wlad yn mrig yr hwyr Wedi droi o Saesneg Gray (Yr Argraffiad Cyntaf). Dewch goronog etc. *Caerfyrddin : J. Evans, 1798. 16 t. Ail. Arg. 1812 16 t.
- Myfyrdod mewn Mynwent Cyfieithiad o waith Gray gan y Parch. D. Davis, Castell Howell. Dewch Goronog, felich sidanog A galluog yma'n lle etc. (4ydd arg.) Caerfyrddin : W. Thomas, 1857. 5ed arg. Caerfyrddin : W. Spurrell
- Natur a Manteision Zel Gristionogol Caerfyrddin : J. Evans, 1809. 24 t. Cyf. Gan D. Davis
- Telyn Dewi Abertawe : F. Fagg, 1824. viii, 210 t. Ail. Arg. Llanbedr : J. Davis, 1876. Aberystwyth : Welsh Gazette, 1927. xvi, 142 t.
Llyfryddiaeth amdano
[golygu | golygu cod]- Evans, Elwyn : Gwr o Gastell Hywel.... Script Radio. Typescript
- G : Dafydd Davis YM, 1938 t. 57–9
- Griffiths, Thomas : Cofiant....David Davis Caerfyrddin : J. Evans, 1828. iv, 60 t.
- J.R.J. : Dafis Castell Hywel CU 32, 1907 t. 245–52
- Davies, J. P. : David Davis YM, 1927 t. 230–2
- Edwards, W. : David Davis YM, 1927 t. 203–6
- Evans, J. J. : David Davis YM, 1927 t. 215–22
- Jenkins, D : David Davis YM, 1927 t. 201–3
- Jones, J. J. : David Davis YM, 1927 t. 270–3
- Jones, R. Jenkin : Dafis Castell Hywel a'r Groegwyr CU 17, 1899 t. 276
- Jones, S : Davis Castellhywel fel Pregethwr YM, 1938 t. 183–7
- Morfa : Davis Castellhywel HL, 1901 t. 106–9
- Morris, E. B. : Y Rhai Fu CU 22, 1902 t. 282–3
- Mursell, Arthur : David Davis Good Words, June, 1863
- Owen, J. D. : David Davis YM, 1927 t. 206–15
- Parry, H. : David Davis EUR, 1860 t. 381–3
- Pryse, William : Dafis Castellhywel TR 4, 1848 t. 197–212
- T.O.W. : David Davis YM, 1927 t. 223–9
Cerddi
[golygu | golygu cod]Cyhoeddwyd detholiad o waith barddol David Dafis yn 1824, dan yr enw Telyn Dewi. Roedd yn englynwr medrus. Mae ei gerddi yn cynnwys awdl i ddathlu'r Chwyldro Ffrengig.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ [Y Bywgraffiadur Arlein';] Gwefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- J. J. Evans, Cymry Enwog y Ddeunawfed Ganrif (Gwasg Aberystwyth, 1937)
- D. Ambrose Jones, Llenyddiaeth a llenorion Cymreig y bedwaredd ganrif ar bymtheg (Wrecsam, 1922)