Thomas Roberts, Llwyn'rhudol

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Awdur Cymraeg radicalaidd oedd Thomas Roberts (1765/6 - 24 Mai 1841[1]), a chwaraeodd ran flaenllaw ym mywyd gwleidyddol a diwylliannol Cymry Llundain ac a gofir fel awdur y bamffled ddylanwadol Cwyn yn erbyn gorthrymder ac fel un o sefydlwyr Cymdeithas y Cymreigyddion. Cyfeirir ato gan amlaf fel Thomas Roberts, Llwyn'rhudol. Roedd yn wladgarwr pybyr.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed Thomas Roberts yn Llwyn'rhudol (hefyd: Llwynrhudol) ym mhlwyf Abererch, ger Pwllheli, Eifionydd, yn 1765 neu 1766. Cyfreithiwr cefnog oedd ei dad, Robert Williams o'r Llwyndu, Llanllyfni. Bu farw rhieni Thomas yn bur gynnar ac aeth i fyw a gweithio yn Llundain cyn cyrraedd ei 14 oed. Gweithiai fel eurof yno. Crynwr oedd o ran ei ddaliadau crefyddol.[2]

Ymunodd ym mwrlwm bywyd cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol Cymreig Llundain. Bu'n un o sefydlwyr Cymdeithas y Cymreigyddion, gyda Jac Glan-y-gors ac eraill, yn 1793. Yn 1794, bu'n un o'r deg a sefydlodd Gymdeithas y Cymreigyddion.

Enw ei wraig oedd Mary, yn enedigol o Swydd Warwick. Cawsant bedwar o blant.

Gwaith llenyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ei bamffled Cwyn yn erbyn gorthrymder, a gyhoeddwyd yn 1798, gwelir dylanwad amlwg radicaliaeth herfeiddiol yr oes a syniadau'r Chwyldro Ffrengig. Daw Eglwys Loegr a'r Methodistiaid fel ei gilydd dan ei lach am fod mor geidwadol. Ond yn nes ymlaen, yn 1806, amddiffynnodd y Methodistiaid yn erbyn ymosodiad enllibus Edward Charles (Siamas Gwynedd).

Mae ei gyhoeddiadau eraill yn cynnwys llyfrau wedi'u anelu at y nifer gynyddol o Saeson oedd yn ymweld â Chymru er mwyn eu galluogi i ddeall y Gymraeg a'i diwylliant. Addasodd gyfrol Benjamin Franklin, Poor Richard's Almanack i'r Gymraeg wrth y teitl Y Ffordd i Gaffael Cyfoeth (1839).

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Cwyn yn erbyn gorthrymder : yn ghyd a sylwiadau ar hawl Esgobion, a'u Gweinidogion i ddegymau, &c. / wedi ei ysgrifenu er mwyn gwerinos Cymru (Llundain, 1798; adargraffiad gan Wasg Prifysgol Cymru, 1928)
  • Amddiffyniad y Methodistiaid (Caerfyrddin, 1806)
  • An English and Welsh Vocabulary (Llundain, 1827). Geiriadur cryno ar gyfer ymwelwyr.
  • The Welsh Interpreter (Llundain, 1831). Cyflwyniad i'r Gymraeg a hanes a diwylliant Cymru.
  • Y Ffordd i Gaffael Cyfoeth (1839)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Bywgraffiadur Arlein
  2. John James Evans, Cymry enwog y ddeunawfed ganrif (Gwasg Aberystwyth, 1937). Pennod IV.2.