Llangybi, Ceredigion

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Llangybi
Math pentref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Ceredigion Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52°9'33.1"N, 4°2'9.2"W, 52°9'29.59"N, 4°3'24.77"W Edit this on Wikidata
Cod SYG W04000384 Edit this on Wikidata
Cod OS SN578478 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Elin Jones (Plaid Cymru)
AS/au Ben Lake (Plaid Cymru)
Erthygl am bentref yng Ngheredigion yw hon. Gweler hefyd Llangybi (gwahaniaethu).

Pentref bychan, cymuned a phlwyf eglwysig yn ne Ceredigion yw Llangybi. Saif ar ffordd yr A485 rhwng Tregaron i'r gogledd a Llanbedr Pont Steffan i'r de, milltir a hanner o bentref Betws Bledrws.

Llifa Afon Dulas heibio i'r pentref i ymuno yn afon Teifi ger Llambed.

Mae Llangybi yn un o dri phentref yng Nghymru sy'n dwyn enw Sant Cybi (6g?). Byddai cleifion yn ymolchi yn Ffynnon Gybi ger yr eglwys a chysgu dan gromlech Llech Gybi gerllaw. Roedd y ffynnon yn ymarllwys i bwll gyda seddau o'i gwmpas.[1]

Cynrychiolir y pentref yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Elin Jones (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Ben Lake (Plaid Cymru).[2][3]

Ffynnon Wen[golygu | golygu cod y dudalen]

Ffynnon Wen

Saif Ffynnon Wen (neu Ffynnon Gybi) 460 metr o'r eglwys, yn ne-orllewin y pentref (Cyfeirnod yr Arolwg Ordnans.[4] Credid ers talwm fod ei dŵr yn iacháu sgyrfi a gwynegon yn ogystal ag anhwylder yn y breichiau, coesau a'r llygaid.[5] Yn niwedd y 18g ysgrifennodd Edward Llwyd 'Mae'r trigolion yn dod at ei gilydd pob Difiau Dyrchafael, er mwyn ymolchi yn Ffynnon Gybi cyn cerdded draw i gromlech Llech Gybi sydd o fewn saethiad saeth o'r ffynnon. Yno, fe roddir y cleifion o dan y garreg, ac os daw cwsg - daw gwellhâd, os na ddaw cwsg - marwolaeth.'

Ar un cyfnos roedd iddo do a baddon i ddal y dŵr gyda llefydd eistedd o amgylch ei ymylon. Yn 1913 roedd mewn cyflwr lled dda.[6]

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[7][8][9][10]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llangybi, Ceredigion (pob oed) (653)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llangybi, Ceredigion) (356)
  
55.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llangybi, Ceredigion) (374)
  
57.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed (Llangybi, Ceredigion) (101)
  
35.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2001), d.g. Cybi.
  2. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  4. Gwefan Cyngor Sir Ceredigion; Cox, A.D.H. Haunted Britain, Hutchinson, 1973, tud. 148 979kb adalwyd 23 Ionawr 2015
  5. Gwefan Cyngor Sir Ceredigion; adalwyd 23 Ionawr 2015
  6. Coflein; adalwyd 23 Ionawr 2015
  7. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  8. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  9. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  10. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: