Llansantffraid, Ceredigion

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Eglwys y Santes Ffraid, Llansantffraid.
Erthygl am bentref yng Ngheredigion yw hon. Gweler hefyd Llansantffraid (gwahaniaethu).

Pentref bychan a chymuned yng nghanolbarth Ceredigion yw Llansantffraid, hefyd Llansanffraid a Llansantffraed. Saif ar yr arfordir, i'r gogledd o Aberaeron ac ychygig i'r gorllewin o'r briffordd A487 a phentref mwy Llan-non. Erbyn hyn mae Llansantffraid bron wedi dod yn rhan o Lan-non. Mae'r gymuned hefyd yn cynnwys Llannon ei hun. Cysegrwyd yr eglwys, sy'n dyddio o'r 15g, i'r santes Ffraid.

Roedd Morfa Esgob, i'r de o'r pentref, yn arfer bod yn eiddo i Esgob Tyddewi. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 1,241.

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llansantffraid, Ceredigion (pob oed) (1,212)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llansantffraid, Ceredigion) (628)
  
53.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llansantffraid, Ceredigion) (704)
  
58.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Llansantffraid, Ceredigion) (224)
  
42%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: