Cwm-cou

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref yn ne Ceredigion yw Cwm-cou (ceir y llurguniad Saesneg Cwmcoy ar rai mapiau). Fe'i lleolir ar y ffordd B5470 tua milltir a chwarter i'r gogledd-orllewin o dref Castell Newydd Emlyn.

Gorwedd y pentref wrth droed y bryniau isel ar lan ogleddol Afon Teifi lle daw Afon Dulas i lawr o'r gogledd i'w chymer ar afon Teifi.

Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Theophilus Evans (1693-1797) awdur y llyfr ffug-hanes enwog Drych y Prif Oesoedd, yng Nghwm-cou, lle treuliodd ei lencyndod.


WalesCeredigion.png Eginyn erthygl sydd uchod am Geredigion. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.