Nanternis

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Nanternis
Nanternis Chapel - geograph.org.uk - 56979.jpg
Math pentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Ceredigion Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52°11'2.882"N, 4°22'50.869"W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Elin Jones (Plaid Cymru)
AS/au Ben Lake (Plaid Cymru)

Pentref bychan yn ne Ceredigion yw Nanternis. Gorwedd Nanternis ar lethrau Cwm Soden tua dwy filltir i'r de o dref fechan Ceinewydd. Mae Afon Soden a red drwy'r pentref yn llifo i'r môr i'r gogledd o Gwmtydu tua milltir i'r gogledd-orllewin ar lan Bae Ceredigion.

Yn yr Oesoedd Canol roedd yn rhan o gwmwd Caerwedros. Heddiw mae'n rhan o gymuned a ward Llandysiliogogo. Ceir yno nifer o anheddau, ffermydd a chapel lle mae Eglwys Annibynnol Nanternis (1867-) yn parhau i addoli ers dros 150 o flynyddoedd. Codwyd festri'r capel yn 1925. Mae'n parhau i gael defnydd crefyddol a chymdeithasol gan drigolion yr ardal. Mae Capel Neuadd (MC) sydd gerllaw i gyfeiriad Llwyndafydd wedi ei ddatgorffori.

Mae'r pentrefi bychain cyfagos yn cynnwys Caerwedros, Llwyndafydd a Cross Inn.

Cynrychiolir y pentref yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Elin Jones (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Ben Lake (Plaid Cymru).[1][2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: