Ystumtuen

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llyn yr Oerfa, ger Ystumtuen.

Pentref bychan yng ngogledd Ceredigion yw Ystumtuen. Fe'i lleolir tua 10 milltir i'r dwyrain o Aberystwyth, yn y bryniau rhwng Ponterwyd a Phontarfynach. Fe gyrhaeddir ato naill ai trwy droi oddi ar yr A44 ger Nant-yr-Arian i gyfeiriad Bwa Drain, neu ar hyd allt serth y Henriw. Mae'n rhan o gymuned Blaenrheidol, gyda Ponterwyd.

Bu cloddio sylweddol am blwm yn ardal Ystumtuen ers o leiaf canol y 1700au a bu Lewis Morris, un o Forysiaid Môn, yn gyfrifol am y gwaith am gyfnod fel dirprwy stiward maenorydd y Goron yn y cylch, a gwnaeth arolwg o'r gweithfeydd y pryd hynny. Caewyd y gwaith plwm olaf yn ystod y 1920au; y mwynwr olaf i gael ei gyflogi oedd David Mason, Ash Cottage, a barhaodd fel gofalwr y gwaith. Symudodd lawer o'r mwynwyr i'r maes glo, ac yn arbennig i bentref Ynyshir yn y Rhondda Fach.

Cyfeiria enw'r pentref at dro (sef ystum) yn Afon Tuen, nant sy'n codi ar gwr y pentref yn Llyn yr Oerfa. Llifa'r nant honno i Afon Rheidol hanner milltir i'r de o'r pentref. Cynigia'r arbenigwr ar enwau afonydd Cymru R. J. Thomas "nant yn rhedeg hyd lechwedd serth" fel ystyr yr enw Tuen (o'r bôn tu- "ochr", cf. 'tuedd').[1]

Capel Wesle oedd, ac yw, unig gapel y pentref a chwaraeodd ran bwysig ym mywyd y cylch. Cynhelid eisteddfod hynod o lewyrchus yno am flynyddoedd, ac roedd y capel yn ganolfan i gôr llwyddiannus yr ardal ar ddechrau'r 20fed ganrif. Dyweder mai dyma un o ddim ond bedwar o gapeli Wesle ym Mhrydain gydag ymddiriedolwyr sydd yn gwbl annibynnol ar y gyfundeb Methodistaidd. Yr oedd yr ysgol hefyd yn perthyn i'r capel ac ar ôl iddi gau, trowyd yr adeilad yn hostel ieuenctid yn y 1950au. Roedd y capel yn brif gapel y gylchdaith (Cylchdaith Ystumtuen) a bu gweinidog yn byw yn y mans hyd at ganol y ganrif ddiwethaf. Codwyd nifer o weinidogion yn y capel, yn cynnwys rhai a fu'n gweinidogaethu o fewn cof megis y Parchedigion J Henriw Mason, David Arthur Morgan, Gwyn Jones a John Henry Griffiths. Mae'r capel yn dal yn agored gyda gwasanaethau (bellach yn ddwyieithog) yn cael eu cynnal unwaith y mis. Mae gan y capel fynwent sydd yn dal yn agored ar gyfer claddedigaethau. Ymysg y rhai y mae cofebion iddynt yno mae John Haulfryn Williams, ysgrifennydd mygedol Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion hyd 1980 a disgynnydd i deulu Masoniaid Brynheulog.

Adroddir hanes y pentref mewn dau lyfr, Bro Annwyl y Bryniau (John Henry Griffiths) a Hapus Dyrfa (Trefor Griffiths).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  1. R. J. Thomas, Enwau afonydd a nentydd Cymru (Caerdydd, 1938), tud. 126.


WalesCeredigion.png Eginyn erthygl sydd uchod am Geredigion. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.