Llyn yr Oerfa
Gwedd
Math | llyn, cronfa ddŵr |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ceredigion |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.400973°N 3.871508°W |
Rheolir gan | Aberystwyth Angling Association |
Llyn yng ngogledd Ceredigion yw Llyn yr Oerfa. Fe'i lleolir gerllaw pentref Ystumtuen, tua 10 milltir i'r dwyrain o Aberystwyth, yn y bryniau rhwng Ponterwyd a Phontarfynach. Mae'n rhan o gymuned Blaenrheidol.
Cyfeiria enw pentref Ystumtuen at dro (sef ystum) yn Afon Tuen, nant sy'n codi ar gwr y pentref yn Llyn yr Oerfa. Llifa'r nant honno i Afon Rheidol hanner milltir i'r de o'r pentref.