Adpar
![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ceredigion ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.02°N 4.28°W ![]() |
Cod OS | SN309409 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Elin Jones (Plaid Cymru) |
AS/au | Ben Lake (Plaid Cymru) |
![]() | |
Hen fwrdeistref ar lan ogleddol afon Teifi yng Ngheredigion sydd bellach yn faesdref i Gastellnewydd Emlyn yw Adpar( ynganiad ) (ceir y ffurf Atpar weithiau hefyd). Mae'n rhan o blwyf a chymuned Llandyfriog, Ceredigion, er bod Castellnewydd Emlyn ei hun, dros yr afon, yn Sir Gaerfyrddin.
Hen enw Adpar oedd Trefhedyn ac roedd yn un o hen fwrdeistrefi Sir Aberteifi. Mae gan Adpar ei le yn hanes Cymru a llenyddiaeth Gymraeg fel cartref i'r argraffwasg barhaol gyntaf yng Nghymru a sefydlwyd yno yn 1718 gan Isaac Carter (m. 1741). Cyhoeddodd Carter ddau bamffledyn, 'Cân o Senn i’w hen Feistr Tobacco' gan Alban Thomas a 'Cân ar Fesur Triban ynghylch Cydwybod a’i Chynheddfau' gan awdur anhysbys yn 1719. Parhaodd y wasg hyd tua 1725 pan gafodd ei symud i dref Caerfyrddin.
Darfu am Adpar fel bwrdeistref yn 1774 a daeth yn ddiweddarach yn faesdref i Gastellnewydd Emlyn.
Mae Adpar yn gartref i Glwb Rygbi Castell Newydd Emlyn.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- T. I. Ellis, Crywdro Ceredigion (Cyfres Crwydro Cymru, 1953)
Aberaeron · Aberarth · Aber-banc · Aberffrwd · Abermagwr · Abermeurig · Aberporth · Aberteifi · Aberystwyth · Adpar · Alltyblaca · Betws Bledrws · Betws Ifan · Betws Leucu · Bethania · Beulah · Blaenannerch · Blaenpennal · Blaenplwyf · Blaenporth · Y Borth · Bow Street · Bronant · Bwlch-llan · Capel Bangor · Capel Cynon · Capel Dewi · Capel Seion · Caerwedros · Castellhywel · Ceinewydd · Cellan · Cilcennin · Ciliau Aeron · Clarach · Cnwch Coch · Comins Coch · Cribyn · Cross Inn (1) · Cross Inn (2) · Cwm-cou · Cwmystwyth · Cwrtnewydd · Dihewyd · Dôl-y-bont · Eglwys Fach · Felinfach · Y Ferwig · Ffair-rhos · Ffostrasol · Ffos-y-ffin · Ffwrnais · Gartheli · Goginan · Y Gors · Gwbert · Henfynyw · Henllan · Horeb · Llanafan · Llanarth · Llanbadarn Fawr · Llanbedr Pont Steffan · Llandre · Llandyfrïog · Llandysul · Llanddeiniol · Llanddewi Brefi · Llanfair Clydogau · Llanfarian · Llanfihangel y Creuddyn · Llangeitho · Llangoedmor · Llangrannog · Llangwyryfon · Llangybi · Llangynfelyn · Llangynllo · Llanilar · Llanio · Llan-non · Llanrhystud · Llansantffraid · Llanwenog · Llanwnnen · Llechryd · Lledrod · Llundain-fach · Llwyncelyn · Llwyndafydd · Llwyn-y-groes · Morfa · Mwnt · Nanternis · Penbryn · Penparc · Penrhiwllan · Penrhyn-coch · Penuwch · Pen-y-garn · Plwmp · Pontarfynach · Ponterwyd · Pontgarreg · Pontrhydfendigaid · Pontrhydygroes · Pont-Siân · Rhydlewis · Rhydowen, Ceredigion · Rhydyfelin · Rhydypennau · Salem · Sarnau · Southgate · Swyddffynnon · Synod Inn · Talgarreg · Tal-y-bont · Temple Bar · Trefenter · Tregaron · Trefilan · Tremain · Tre-saith · Tre Taliesin · Troedyraur · Ysbyty Ystwyth · Ystrad Aeron · Ystrad Meurig · Ystumtuen