Cross Inn, canolbarth Ceredigion

Oddi ar Wicipedia
Cross Inn
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDyffryn Arth Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.256°N 4.135°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auElin Jones (Plaid Cymru)
AS/auBen Lake (Plaid Cymru)
Map
Erthygl am le yng Ngheredigion yw hon. Gweler hefyd Cross Inn (gwahaniaethu).

Pentref bychan yng nghanolbarth Ceredigion yw Cross Inn, sy'n un o sawl lle o'r un enw yng Nghymru. Fe'i lleolir tua 6 milltir i'r dwyrain o Aberaeron a thua 12 milltir i'r de o Aberystwyth, ar groesffordd y B4337 a'r B4577. Enwir y pentref ar ôl tafarn leol.

Y pentrefi cyfagos yw Nebo, llai na milltir i ffwrdd i'r gogledd ar y B4337, a Bethania, ar y B4557 tua 2 filltir i'r dwyrain. I'r gorllewin cyfyd bryniau isel Y Mynydd Bach.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Geredigion. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.