Ceinewydd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ceinewydd
New Quay 2.jpg
Yr harbwr
Poblogaeth 1,082 Cyfrifiad 2011
    - Caerdydd 90 mi (140 km) De-Ddwyr 
Sir Ceredigion
Sir seremonïol Dyfed
Gwlad Cymru
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Tref bost Cei Newydd
Rhanbarth cod post SA45
Cod deialu 01545
Heddlu Dyfed-Powys
Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru
Ambiwlans Cymru
Senedd yr Undeb Ewropeaidd Cymru
Senedd y DU Ceredigion
Cynulliad Cymru Ceredigion
Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Ceredigion

Mae Ceinewydd (hefyd weithiau Cei Newydd, "Y Cei" ar lafar; Saesneg: New Quay) yn dref fechan a chymuned ar arfordir Ceredigion, Cymru. Roedd ganddi 1,082 o drigolion yng Nghyfrifiad 2011, a 41% ohonynt yn siarad Cymraeg (i lawr o 47% yn 2001). Mae'r A486 yn ei chysylltu â Llandysul a Chaerfyrddin. Saif hanner ffordd rhwng Aberystwyth ac Aberteifi.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Traeth y Cei

Bychan iawn oedd y pentref yma cyn i John a Lewis Evans brynnu "Ystâd Neuadd" yn 1791. Dim ond tri thŷ a chwe bwthyn oedd ar yr ystâd a oedd yn 1,200 cyfer. Hen fferm oedd ar y safle ble mae Gwesty Pen Wig heddiw. Felly, mae'n bentref eithaf diweddar – nid oes golwg ohoni ar fapiau tan canol y ddeunawfed ganrif – ond yn fuan dechreuodd dyfu fel pentref pysgota ac yna fel atyniad twristaidd boblogaidd. Does dim dwywaith fod smyglo hefyd wedi chwarae rhan bwysig o'r economi leol ar yr adeg hon. Tua chanol y 19eg ganrif, daeth Ceinewydd yn borthladd pwysig yn darparu calch i'r ffermydd lleol. Adeiladwyd sawl llong yno hefyd. Ond gyda dyfodiad y rheilffordd i'r trefi cyfagos, daeth diwedd i bwysigrwydd y pentref. Bellach, twristiaeth yw diwydiant pennaf Ceinewydd. Mae rhai o'r ffermydd yn dyddio i'r 16eg ganrif neu cyn hynny; nodir "Crawgal" a "Chefn Gwyddil" yn arolwg 1587 a "Phen Coed" a "Phenrhiwpistyll" wedi eu codi ar ddechrau'r 17eg ganrif. Yn y pentref, yn wreiddiol, Penygeulan (neu Rhes Glanmor, heddiw) oedd y rhes cyntaf o dai, a'r rheiny'n fythynod clom, to gwellt, a Glyngoleu sydd ar y bryn i'r dwyrain o'r môr. Mae'r rhan fwyaf o dai heol Glyngoleu, bellach, wedi'u bwyta gan donnau'r môr. Codwyd Dolau, Wellington Place a'r tai ar waeld Heol yr Eglwys cyn codi'r cei yn 1835.

Eglwysi[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir yma dwy eglwys hynafol: Llanllwchhaearn a Llanina. Cysegrwyd y cyntaf i sant Gwyddelig a'r ail i Ina, merch Ceredig, llywodraethwr Ceredigion yn y 6ed ganrif. Mae'r ddwy eglwys yn cael eu nodi ar fapiau mor gynnar â 1644.

Yr harbwr[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu yma gychod pysgota ers canrifoedd ac yn 1748 comisiynwyd Lewis Morris i lunio siart o arfordir bae Ceredigion. Yn y 1690au roedd harbwr bychan o'r enw Penpolion yn bod (ger Gorsaf y Bad Achub heddiw), sef morglawdd syml wedi ei wneud o bolion pren, drwy eu cnocio'n ddyfn i'r ddaear.

Gan fod yr harbwr yn llawer nes i Lundain nag Aberdaugleddau, bu adeg pan ystyriwyd ei throi'n harbwr enfawr, gan y medrai cychod o gryn faint ddod i fewn i'r harbwr ar chwarter llanw a gwnaed nifer o ymdrechion i'r perwyl. Fodd bynnag yn 1834 codwyd y pier presennol, wedi'i gynllunio gan Daniel Beynon: 456 troedfedd o hyd ar dair lefel. Costiodd £4,722 a ffurfiwyd Cwmni Harbwr Cei Newydd yn y Llew Du, yn Llambed yn 1835. Roedd gan y cwmni awdurdod dros y arfordir o ynys Lochtyn (ger Llangrannog i fyny i Graig Ddu yng Nghei Bach.

Smyglwyr[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd Cei Newydd yn hafan i smyglwyr am ran helaeth o'r 18fed ganrif, a cheir llawer o dystiolaeth fod yr Awdurdodau (y "Refeniw" fel y'i gelwid) yn cadw llygad barcud ar y pentref oherwydd y contraband. Yn ystod Rhyfel Napoleon codwyd treth neu doll ar lawer o nwyddau gan gynnwys te a oedd a threth o bedwar swllt y pwys. Nwyddau eraill a oedd yn cael eu trethu'n uchel oedd gwin, halen, gwirodydd a thybaco. Roedd y dreth ar halen yn eithriadol o amhoblogaidd gan ei fod yn cael ei ddefnyddio i biclo neu gadw pysgod yn ffres. Fel y dangosodd yr hanesydd Geraint Jenkins, yn 1704 cyrhaeddodd 3 chwch yn llawn halen (a phedair arall ar y ffordd) ac roedd yno 150 o ddynion gyda 200 o geffylau'n eu gwagio. O'r Iwerddon a Ffrainc y deuai'r contraband, fel rheol.

Ceir rhwydwaith o ogofâu ger Heol yr Eglwys (ochor 'Penwaig') a dyllwyd yn benodol i guddio contraband. Efallai ma'r smyglwr enwocaf oedd Siôn Cwilt a cheir ysgol gynradd gerllaw sy'n dwyn ei enw. Gwisgai got cwilt clytwaith, o liw coch, a storiai newyddau mewn hen fwthyn ar dir sy'n cael ei adnabod heddiw fel Banc Siôn Cwilt ger Synod Inn; roedd hefyd yn gyfrifol am eu dosbarthu ledled yr ardal. Ymddengys ei enw fel 'John Qwilt' yng nghofrestr y plwyf yn Eglwys Llanina.

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Ceinewydd (pob oed) (1,082)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Ceinewydd) (435)
  
41.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Ceinewydd) (601)
  
55.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Ceinewydd) (232)
  
44.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Myra Evans, Atgofion Ceinewydd (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, Aberystwyth, 1961). Atgofion yr awdures am fywyd gwerin 'y Cei' ar droad yr 20fed ganrif.
  • Cei Newydd: Hanes Trwy Luniau gan Roger Bryan; Llanina Books; 2012.

Golygfeydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]