Neidio i'r cynnwys

Siôn Cwilt

Oddi ar Wicipedia

Smyglwr yng Ngheredigion yn y 18g oedd John White (neu Siôn Cwilt).

Daeth John White i fyw mew bwthyn bach o'r enw Sarnau Gwynion - rhwng Rhydeinon a'r Bannau Duon ym mhlwyf Llanarth tua chanol y 18g. Smyglwr oedd y gwr hwn, ac arferai sleifio gyda'i fulod dros y Bane i Gwmtydi gyfarfod a'r llongau a arferai ddod yno bob hyn a hyn a'u llwythi anghyfreithlon. Roedd John White wedyn yn gwerthu'r nwyddau, gan gynnwys gwin i Syr Herbert Lloyd ym mhlas Ffynnon Bedr.

Yn ôl yr hanes roedd yn gwisgo dillad rhacsiog, ac yn clytio'r tyllau â darnau o frethyn o bob lliw. Ac yn fuan aethpwyd i'w alw gan y trigolion lleol yn Siôn Cwilt. Mae cofnod (ym Mhlwyf Llanina) o fab 'John Qwilt' yn cael ei fedyddio yn 1758.

Banc Siôn Cwilt

[golygu | golygu cod]

Daeth yr awdurdodau i wybod am weithredoedd yr hen smyglar a bu'n rhaid iddo ddianc o'r Banc rhag ofn iddo gael ei garcharu. Fe wnaeth hynny un bore gan adael llond bwthyn o boteli gwin ar ei ôl. O ganlyniad i hyn oll, newidiwyd Banc Cwm Einion yn Fanc Sion Cwilt. A dyna'r enw hyd heddiw ar y cnwcyn cul sy'n rhedeg ar draws gwlad i'r gogledd o bentrefi Llanarth a Synod - o Groesffordd Rhydeinon i Groesffordd Mownt.