Llangoedmor

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Llangoedmor
Llangoedmor Parish Church.jpg
Math Pentref, Cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Ceredigion Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.0811°N 4.6326°W Edit this on Wikidata
Cod SYG W04000381 Edit this on Wikidata
Cod OS SN175465 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Elin Jones (Plaid Cymru)
AS/au Ben Lake (Plaid Cymru)

Pentref bychan a phlwyf yn ne-ddwyrain Ceredigion yw Llangoedmor ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif y pentref 1 filltir i'r dwyrain o dref Aberteifi ar y lôn B4570 ar lan ffrwd fechan sy'n llifo i aber Afon Teifi gerllaw.

Sant Cynllo yw nawddsant yr eglwys. Atgyweirwyd yr hen eglwys yn sylweddol yn 1860. Er mai pentref bychan yw Llangoedmor heddiw, ar un adeg roedd gan ei chlas awdurdod dros ardal ehangach, yn cynnwys Aberteifi, Mwnt a Llechryd.

Ceir Ffynnon Cynllo yn y plwyf, enwog am iachau'r crudcymalau, yn ogystal â 'Cerwyni Cynllo' ar lan Afon Teifi; ogofâu â'r dŵr yn "berwi" ynddynt. Ceir gwaith amddiffyn o bridd a elwir Cynllo Faes.

Ceir llawer o straeon am fywyd mân-fonheddwyr Cymreig Plas Llangoedmor yn llyfr H. M. Vaughan The South Wales Squires (llyfr a gafodd ddylanwad mawr ar Saunders Lewis).

Cynrychiolir y pentref yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Elin Jones (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Ben Lake (Plaid Cymru).[1][2]

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llangoedmor (pob oed) (1,128)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llangoedmor) (544)
  
49.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llangoedmor) (649)
  
57.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Llangoedmor) (245)
  
46.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013

Ffynhonnell[golygu | golygu cod y dudalen]

  • T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyn Dŵr, 2000)
  • T. I. Ellis, Crwydro Ceredigion (Llyfrau'r Dryw, 1953)
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: