Llanwnnen

Oddi ar Wicipedia
Llanwnnen
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth490 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd2,339.02 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.1°N 4.1°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000391 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auElin Jones (Plaid Cymru)
AS/auBen Lake (Plaid Cymru)
Map

Pentref, cymuned a phlwyf eglwysi yng Ngheredigion yw Llanwnnen. Saif yn Nyffryn Teifi yn ne'r sir ar groesffordd ar yr A475 tua 4 milltir i'r gorllewin o Lanbedr Pont Steffan, ac ar lan Afon Grannell, fymryn i'r gogledd o'r fan lle mae'r afon honno yn llifo i Afon Teifi. Cysegrwyd yr eglwys, sy'n dyddio o'r 15g, i'r santes Gwnnen.

Mae'r gymuned yn cynnwys dalgylch Afon Grannell. Mae'r Undodiaid yn gryf iawn yn yr ardal hon, ac o'r herwydd cafodd yr enw "y smotyn du" gan aelodau enwadau eraill. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 1,391.

Treuliodd y bardd Daniel Evans (Daniel Ddu o Geredigion) (1792-1846) rhan helaeth ei oes ar fferm y teulu yn y plwyf.

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanwnnen (pob oed) (490)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanwnnen) (307)
  
65.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanwnnen) (341)
  
69.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Llanwnnen) (73)
  
35.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]