Llwyndafydd

Oddi ar Wicipedia
Llwyndafydd
Eglwys Llantysiliogogo, ger Llwyndafydd
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.1732°N 4.384365°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN370554 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auElin Jones (Plaid Cymru)
AS/auBen Lake (Plaid Cymru)
Map

Pentref bychan yng nghymuned Llandysiliogogo, Ceredigion, Cymru, yw Llwyndafydd[1][2] (weithiau Llwyn-dafydd). Mae'n gorwedd rhai milltiroedd i'r de o dref fechan Ceinewydd ac yn rhan o gymuned Llandysiliogogo. Mae ar lan Afon Ffynnon Ddewi sy'n llifo i'r môr ger Cwmtydi, tua 2 filltir i'r gogledd-orllewin ar lan Bae Ceredigion.

Yn "Neuadd Llwyndafydd" y trigai yr uchelwr Dafydd ab Ieuan, a chredir i Harri Tudur ymweld ag ef ar ei daith i Frwydr Bosworth.[3]

Credir mai yn Llwyndafydd y bu canolfan gynharaf cwmwd Caerwedros, er bod pentref Caerwedros, i'r gogledd o Lwyndafydd, yn dwyn enw'r hen gwmwd.

Mae'r pentrefi bychain cyfagos yn cynnwys Caerwedros a Nanternis. Saif hen domen mwnt a beili Castell Caer Wedros tua hanner kilometr i'r gogledd-ddwyrain o Lwyndafydd.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[4] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 29 Hydref 2021
  3. google.co.uk; Gweler: Bosworth: The Birth of the Tudors gan Chris Skidmore. sillefir Llwyndafydd yma fel 'Llwyn Dafydd'. Adalwyd 6 Awst 2020.
  4. Gwefan Senedd Cymru
  5. Gwefan Senedd y DU
Eginyn erthygl sydd uchod am Geredigion. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.