Castell mwnt a beili

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Mwnt a beili)
Castell mwnt a beili
Mathcastell Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Sycharth: y mwnt a beili enwocaf yng Nghymru.
Tomen y Rhodwydd: efallai'r castell mwnt a beili gorau sydd wedi goroesi, o ran cadwraeth
Glyndyfrdwy: un o domenni Owain Glyndŵr

Castell wedi ei wneud o domen o bridd gydag amddiffynfa bren o'i gwmpas yw castell mwnt a beili (a elwir hefyd yn gastell tomen a beili). Mae'n ddull o adeiladu amddiffynfa a ddaeth yn boblogaidd yng ngwledydd Prydain yn ail hanner yr 11eg ganrif gyda dyfodiad y Normaniaid. Ceir rhai cannoedd o enghreifftiau o gestyll mwnt a beili yng Nghymru, Lloegr, de'r Alban a rhannau o Iwerddon. Maent yn arbennig o niferus ar hyd y Gororau a'r Mers, sef cadarnle'r barwniaid Normanaidd rhwng Cymru a Lloegr. Tyfodd rhai o'r caerau hyn i fod yn gestyll cerrig mawr tra arhosodd eraill yn domennydd pridd ar ôl cael eu defnyddio dros dro. Yng Nghymru mabwysiadwyd y dull newydd gan rai o dywysogion Cymru am gyfnod. Yr enw Cymraeg Canol am y math hwn o gastell oedd tomen ('tump' ar y Gororau).[1]

Adeiladwaith[golygu | golygu cod]

Prif bwrpas cestyll mwnt a beili oedd cysgodi grwpiau bychain o farchogion a saethwyr (yr uned filwrol Normanaidd arferol) yn ystod y Goresgyniad Normanaidd.[2] Roedd angen amddiffynfa hawdd i'w chodi. Fel rheol roedd y castell yn domen bridd (mwnt, mount) gron neu hirgron â chopa gwastad, gyda ffos o'i chwmpas. Weithiau byddai'r adeiladwyr yn manteisio ar nodwedd naturiol fel codiad tir. Yn gysylltiedig â'r mwnt roedd yn arferol - gydag ychydig iawn o eithriadau - codi amddiffynfa bren syml, palisâd o bren i amgáu darn o dir uchel. Dyma'r beili. Byddai hwn yn cael ei godi naill ai ar ben y mwnt neu'n agos iawn at y copa. O fewn y tir o fewn y palisâd roedd yr amddiffynwyr yn codi tŵr pren syml; byddai'r dynion yn cysgodi yn y tŵr a'r meirch yn y tir o fewn y palisâd.[3][4]

Addasu a dirywio[golygu | golygu cod]

Yn ystod y cyfnod canoloesol roedd y castell mwnt a beili yn gynllun llai poblogaidd nag yr oedd yn flaenorol. Ni adeiladwyd cestyll mwnt a beili yn Ffrainc tan ganol y 12g, ac ar ôl tua 1170 rhoddwyd y gorau i adeiladu cestyll mwnt mewn rhannau helaeth o Loegr, er roeddent yn parhau i gael eu hadeiladu yng Nghymru ac ar hyd y Gororau. Roedd llawer o gestyll mwnt a beili wedi cael eu defnyddio am gyfnod byr yn unig; yn Lloegr roedd llawer wedi cael eu hamddifadu neu wedi cael eu gadael erbyn y 12g. Yn yr Iseldiroedd a’r Almaen, digwyddodd sefyllfa debyg yn ystod y 13eg a’r 14g.

Un ffactor yn y newidiadau yn y castell mwnt a beili oedd cyflwyno cestyll cerrig. Ymddangosodd y cestyll cerrig cynharaf yn ystod y 10g. Er bod pren yn ddefnydd mwy pwerus o safbwynt amddiffynnol na’r hyn a feddyliwyd yn flaenorol, roedd carreg yn raddol yn dod yn fwy poblogaidd am resymau milwrol a symbolaidd. Addaswyd rhai cestyll mwnt a beili i rai cerrig, gyda’r tŵr a’r porthdy fel arfer yn cael eu trosglwyddo’n gyntaf i'r defnydd newydd. Adeiladwyd tyrrau siel ar sawl mwnt, gyda sieliau cerrig crwn weithiau'n rhedeg ar hyd top y mwnt ac weithiau'n cael eu hamddiffyn gan chemise, neu wal isel amddiffynnol, ar hyd y gwaelod. Erbyn y 14g, roedd nifer sylweddol o gestyll mwnt a beili wedi cael eu trosglwyddo i fod yn gaerau cerrig pwerus.[5]

Rhai enghreifftiau sydd i'w gweld heddiw[golygu | golygu cod]

Cymru[golygu | golygu cod]

Am restr gyflawn o holl gestyll mwnt a beili Cymru, gweler yma.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Motte and Bailey Castles - first castles". www.primaryhomeworkhelp.co.uk. Cyrchwyd 2020-09-08.
  2. "The Motte and Bailey Castles That William the Conqueror Brought to Britain". History Hit (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-08.
  3. Ghidrai, George. "Motte and baileys, a decisive factor in the Norman conquest of Britain". www.castlesworld.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-08.[dolen marw]
  4. "Motte and Bailey Castle Facts, Worksheets & History For Kids". KidsKonnect (yn Saesneg). 2017-02-07. Cyrchwyd 2020-09-08.
  5. "Motte and Bailey Castle". Ancient History Encyclopedia. Cyrchwyd 2020-09-08.
  6. "Motte and Bailey Castles". www.castlewales.com. Cyrchwyd 2020-09-08.