Pen y Mwd
![]() | |
Math | castell mwnt a beili ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Teyrnas Gwynedd ![]() |
Lleoliad | Abergwyngregyn ![]() |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.233838°N 4.014334°W ![]() |
![]() | |
Dynodwr Cadw | CN007 ![]() |
Hen domen, neu fwnt, o'r Oesoedd Canol ydy Pen y Mwd, heb y mur gwarcheidiol arferol, sef y “beili”. Lleoliad: pentref Abergwyngregyn, Gwynedd; cyfeiriad grid SH656726.
Cysylltir y castell hwn â theyrnasiad Llywelyn Fawr, ei fab Dafydd ap Llywelyn a'i ŵyr Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru. Lleolid prif lys Teyrnas Gwynedd gerllaw, efallai ar safle Pen-y-bryn. Mae'r castell yn amddiffyn yr hen ffordd dros Fwlch y Ddeufaen ac yn gwarchod y fferi strategol dros Afon Menai i Lanfaes, prif borthladd Gwynedd yng nghyfnod y Tywysogion.
Fe'i cofrestrwyd gan Cadw a chaiff ei adnabod gyda'r rhif SAM: CN007 .[1]
Fe godwyd y rhan fwyaf o'r tomenni hyn yng Nghymru rhywdro rhwng degawdau olaf yr 11g ac ail hanner y 12g allan o bridd a charreg, gyda ffos o'u cwmpas fel rheol. Y Normaniaid ddaeth â'r math hwn o amddiffynfa o Ffrainc i wledydd Prydain a mabwysiadwyd y dechnoleg gan y Cymry. Mae'r clwstwr mwyaf o'r tomennydd hyn drwy wledydd Prydain i'w weld yn ardal y gororau (neu'r Mers): sef Swydd Amwythig, Swydd Gaer, Swydd Henffordd, Powys a Sir y Fflint fel y caiff ei adnabod heddiw.[2]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Data Cadw
- ↑ ["Gwefan English Heritage; adalwyd 22/10/2010 (Saesneg)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-11-06. Cyrchwyd 2010-10-25. Gwefan English Heritage; adalwyd 22/10/2010 (Saesneg)]