Castell Dinbych

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Castell Dinbych
Denbigh Castle.jpg
Math castell, adfeilion, safle archaeologeol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Sir Ddinbych, Dinbych Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 53.180546°N 3.420726°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Ann Jones (Llafur)
AS/au Chris Ruane (Llafur)
Manylion
Statws treftadaeth adeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata

Castell Dinbych yw un o'r cestyll a adeiladwyd gan Edward I, brenin Lloegr, yn ystod ei goncwest o Gymru. Mae'n sefyll ar bentir carregog uwchben tref fechan Dinbych, yn Sir Ddinbych.

Mae'n debyg fod y safle wedi cael ei ddefnyddio ers yr Oesodd Canol Cynnar, ac mae'n bosib y cafodd caer Gymreig ei hadeiladu ar y safle ac iddi gael ei defnyddio fel canolfan frenhinol yn fuan cyn adeiladu'r castell cerrig. Adeiladwyd y castell gerrig presennol gan Henry de Lacy, 3ydd Iarll Lincoln, a gafodd y tir gan Edward I yn fuan ar ôl iddo drechu Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru yn 1282.

Castell Dinbych
Denbigh Castle 1.jpg

Roedd cynlluniau gwreiddiol y castell yn cynnwys rhychwant hir o furiau, fel llen, gyda thyrau hanner crwn yn ymestyn allan, a dau borth. Mae'r waliau gwreiddiol hyn erbyn heddiw yn goroesi fel waliau'r dref. Gwahanwyd y castell presennol o weddill yr ardal gaeëdig gan set o waliau enfawr yn yr un arddull a Chastell Caernarfon; mae'r waliau hyn yn cynnwys porthdy unigryw â thri thŵr, hon yw un o nodweddion mwyaf trawiadol y castell. Er nad oes tystiolaeth, credir mai y pensaer oedd James o St George, pen saer maen Edward I.

Mae'r castell yng ngofal Cadw erbyn hyn.

Gwarchaeon[golygu | golygu cod y dudalen]

1282[golygu | golygu cod y dudalen]

Nid oes llawer o fanylion am y gwarchae hwn ond caiff ei hystyried yn hynod o bwysig gan mai dyma gadranle olaf Dafydd ap Gruffudd, brawd y Tywysog Llywelyn ap Gruffudd. Drwy gipio'r castell hwn, a fu yn nwylo'r Cymru ers 1277, cafodd y goresgynwyr Saesnig fynediad i borthladdoedd agos iawn i Wynedd Uwch Conwy a gweddill Gwynedd - troedle allweddol i'r ymosodiad milwrol olaf ar genedl y Cymru. Yn dilyn cipio'r castell oddi wrth y Cymru, ar 16 Hydref, 1282, rhoddwyd y castell a'r ardal o'i gwmpas i Henry de Lacy, iarll Lincoln, yn anrheg, ac ystyriwyd Arglwyddiaeth Dinbych yn un o Arglwyddiaethau'r Mers.[1]

Cyn hyn, disgynnod cestyll cryfion Fflint, Rhuddlan a Chaergwrle.

Gwyddom fod gan y fyddin Saesnig 10,500 o wŷr traed a 450 o farchogion ac erbyn 28 Awst roeddent wedi cyrraedd Rhuthun. Ceir cofnod i nifer o beiriannau gwarchae (a elwid yn 'Pyceyns' a 'Howans') gael eu llusgo o Gaer i Ruthun, ac oddi yno i Dderwen Llanerch; barn yr hanesydd Dr Adam Chapman (2013) iddynt gael eu llusgo oddi yno i Ddinbych i atgyfnerthu gwarchae, ac ymosod ar gadarnle olaf Dafydd ap Gruffudd. Gwyddom hefyd i Edward I, brenin Lloegr gyrraedd yno ar 23 Hydref, a cheir cofnod o daliadau i Saeson i adeiladu'r castell erbyn hynny - prawf posib fod y cyfan ar ben erbyn i'r brenin gyrraedd, a Chastell Dinbych yn nwylo'r Sais.

1294-5[golygu | golygu cod y dudalen]

Arfau Dafydd ap Gruffudd, Tywysog olaf Cymru.

Digwyddodd y gwarchae hwn wedi marwolaeth y Tywysog Llywelyn ap Gruffudd, ac fel rhan o Wrthryfel Cymreig 1294–95. Yn dilyn goresgyniad yr ardal gan Henry de Lacy, iarll Lincoln, ar ran brenin Lloegr, symudwyd llawer o Saeson i'r ardal, gwnaed hi yn un o Arglwyddiaethau'r Mers, ac adeiladwyd Dinbych ar ffurf bwrdeisdref. Dinistrwyd llawer ohoni gan y gwarchae hwn, dinistrwyd hi gymaint nes y bu'n rhaid ei hailgodi'n llwyr! Digwyddodd y gwarchae yn dilyn cyfnod o atgyfnerthu'r castell pan ddefnyddiwyd carreg yn lle pren. Wedi llofruddio Llywelyn ar 11 Rhagfyr 1812 a'i frawd Dafydd, Arglwydd Dyffryn Clwyd (m. 3 Hydref 1283) flwyddyn yn ddiweddarach, cododd y Cymry, dan faner Madog ap Llywelyn, mewn gwrthryfel yn erbyn y goresgynwyr estron a oedd yn trethu'r ardal yn drwm ac yn gorfodi'r dynion i ymladd yn Gasgwyn, Tywysogaeth yn ne-orllewin Ffrainc.

Cipiodd y Cymru lleol y castell ar 11 Tachwedd 1294 a chymerodd hyd at 29 Mehefin 1295 i'r Saeson ei oresgyn.

Yn ôl yr hanesydd Dr Adam Chapman (2013) roedd y gwrthryfel yn sialens enfawr i'r Saeson, ac effeithiwyd Cymru gyfan gan y gwrthryfel hwn.[2]

Roedd ymateb Edward I yn sydyn a chreulon: casglodd ynghyd dair byddin: byddin o 16,000 yng Nghaer, byddin arall yn Nhrefaldwyn a'r trydydd wedi'i rhannu rhwng Caerfyrddin ac Aberhonddu. Hwyliodd sawl llong yn llawn bwyd ac arfau i borthladdoedd megis Caerfyrddin i ddiwallu anghenion y byddinoedd hyn a chodi gwarchae'r Cymru yng nghestyll Cricieth, Harlech ac Aberystwyth, ac yna Dinbych. Erbyn Mawrth 1295, yn dilyn Brwydr Maes Maidog (5 Mawrth 1295) a brwydrau eraill, methodd y gwrthryfel.

Ychydig o gofnodion Cymreig sydd ond gwyddom i'r ymgyrch drwy Gymru gyfan gostio £55,000 i frenin Lloegr - swm aruthrol. Gwyddwn hefyd fod gan Henry de Lacy fyddin o 2,500 yng Nghastell Rhuddlan yn Rhagfyr 1294 ac i Reginald de Grey ymuno gydag ef er mwyn adennill ei diroedd yntau. Rhoddwyd ail siarter frenhinol i'r dref, a gollodd dros 40% o'i thai bwrgais, symudwyd rhagor o Saeson yno a rhoddwyd y tiroedd gorau yn Nyffryn Clwyd iddynt, fel y dengys dogfen 1334.

1460[golygu | golygu cod y dudalen]

Arfau Siasbar Tudur

Cafwyd gwarchae gan Siasbar Tudur yng ngwanwyn 1460, ar Gastell Dinbych - castell a roddwyd iddo gan frenin Lloegr. Dengys cofnodion y cyfnod i bowdwr gwn gael ei ddefnyddio gan Siasbar yn ei ymgais i feddiannu'r castell.[3]

Rhoddwyd Arglwyddiaeth Dinbych i Roger Mortimer ar 13 Medi 1327, a throsglwyddwyd ef, ymhen amser, i Richard, dug York (m. 1460). Yn dilyn trechu York ym mrwydr Ludford Bridge ar 12 Hydref 1459, cymerwyd ei diroedd oddi arno (gan gynnwys Arglwyddiaeth Dinbych) a ffodd am ei fywyd. Trosglwyddwyd y tiroedd hyn ar 5 Ionawr 1460 i hanner brawd Harri VI, brenin Lloegr, sef Siasbar Tudur, a oedd yn fab i Owain Tudur. Ceisiodd gwarchodlu'r castell ei atal a chodwyd gwarchae. Llwyddodd Siasbar i gymeryd y castell, am gyfnod byr, ond llwyddodd Edward i gipio coron Lloegr yn dilyn Brwydr Towton a daeth newid ar fyd. Roedd y frwydr yn rhan o Ryfeloedd y Rhosynnau gychwynwyd yn St Albans yn 1455 ac a ddaeth i ben ym Mrwydr Maes Bosworth yn 1485.

1468[golygu | golygu cod y dudalen]

Dyma un arall o frwydrau Rhyfeloedd y Rhosynnau, gyda Siasbar yn erbyn Syr Richard Herbert, brawd yr Arglwydd William. Ymddengys i Siasbar a thros 2,000 o filwyr losgi'r dref Seisnig a oedd wedi sefydlu y tu allan i'r waliau yn 1468, er na ellir, mewn gwirionedd, ei alw'n 'warchae'. Ymledodd y llosgi a'r lladd hyd at Fflint, cyn i Siasbar gael ei drechu yn Nyffryn Conwy gan Richard Herbert. Roedd y difrod i dref dinbych yn fwy na'r hyn a welwyd yn 1460, a chymaint a'r hyd a wnaed iddi gan y Tywysog Owain Glyn Dŵr yn 1400.[4]

Y cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Wedi buddugoliaeth y Iorciaid ym Mrwydr Bamburgh yn 1464, Harlech oedd troedle ola'r Lancastriaid, drwy wledydd Prydain. Yma y ffodd brenhines Harri VI wedi cyflafan Towton. Trechwyd Siasbar yn Twthill, Caernarfon ar 16 Hydref 1464, ond daliodd Harlech i wrthsefyll yr Iorciaid. Gogledd Cymru (oherwydd cysylltiad Siasbar a'i dad Owain tudur ag Ynys Môn) oedd un o gefnogwyr pennaf y Lancastriaid. Pan syrthioddd Harlech, roedd gwledydd Prydain i gyd yn nwylo'r Iorciaid.

Wedi hwylio o Ffrainc, glaniodd Siasbar gyda nifer fechan o filwyr yn y Bermo. Mewn cerdd gan Dafydd Llwyd of Mathafarn i Dafydd ab Ieuan ab Einion (capten Castell Harlech), un o gefnogwyr mwyaf pybyr Siasbar, mae'n rhagweld yr hyn sydd i ddod:

A daw herwe dewr, hirwallt,
A'i dai ar hyd y dŵr hallt.
Wedi’r wyl y daw’r eleirch
I dir Kent cyn medi'r ceirch
O flaen y byd aflonydd
Coedcrais ar Fenai a fydd.

Yr ymosodiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Glaniodd Sasbar yn y Bermo, ychydig wedi 24 Mehefin mewn tair llong a fenthyciwyd iddo gan Louis XI, brenin Ffrainc. Teithiodd drwy Eryri ac i Ddinbych gyda llu o dros 2,000 o ddynion: heb yr un dyn byw yn ei herio. Wedi deuddydd, dri o gyfarfodydd yn Ninbych, wynebodd byddin Herbert yn Nyffryn Conwy a threchwyd Siasbar gan fyddin fwy, ac oddi yno yr aeth i Ddinbych. Ymosododd rhwng Chwefror a Mawrth 1468 ar Ddinbych. Nid oedd ganddo beiriannau rhyfel i dorri drwy waliau, ac felly mae'n fwy na thebyg iddo ymgiprys ar ffurf chevauchée (ymosodiad sydyn, fel arfer ar geffylau gan nifer facho filwyr, yn ddirybudd, a chyn bod y gelyn yn ymwybodl fod ymosodiad i ddod).

Nid oes unrhyw dystiolaeth i ymosodiad ar y castell gan yr Ioriaid fod yn llwyddiannus, ond llosgwyd y dref bron yn llwyr.

1646[golygu | golygu cod y dudalen]

Ail-greu ymosodiad y Pengryniaid ar Gastell Cil-y-coed gan actorion y Sealed Knot.

Erbyn 1646 roedd ffurf y castell yn debyg iawn i'r hyn sydd yno heddiw. Arweiniwyd y Seneddwyr, neu'r Pengryniad o fewn y castell gan Thomas Mytton a'r Brenhinwyr, a gododd y gwarchae dan arweiniad y Cyrnol William Salesbury (Y Rug a Bachymbyd). Lleoliad gwersyll y Seneddwyr oedd y caeau o amgylch Llanfarchell (neu'r 'Eglwys Wen').

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Ymladdwyd Rhyfel Cartref Lloegr rhwng 1642 a 1651 ac roedd yn fuddugoliaeth i'r rhan fwyaf o drigolion gogledd-ddwyrain Cymru. Cychwynodd ar 17 Ebrill 1646, wedi i Ruthun syrthio, a daeth i ben wedi gwarchae a barodd hyd 26 Hydref y flwyddyn honno. Nid ystyrir y digwyddiadau yma o bwys mawr gan fod materion llawer pwysicach yn digwydd mewn rhannau eraill o ynysoedd Prydain e.e. Siarl I yn ildio i'r Albanwyr ar 17 Mai.[5] Erbyn 1645 roedd y rhan fwyaf o Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Threfaldwyn wedi troi oddi wrth y brenin ac at y Seneddwyr (y Pengryniaid) (gweler A. H. Dodd).

O 25-28 Medi 1645 arhosodd Siarl I yn y castell ac aeth ati i adfer y waliau ychydig wedyn.

Y gwarchae 'cwrtais'[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd Castell Dinbych yn nwylo'r Pengryniad ers tua Tachwedd 1646. Roedd sawl magnel y tu mewn, ond un yn unig oedd y tua allan, ac nid oedd yn ddigon cryf i ddifrodi'r waliau. William Salesbury oedd capten y castell, ac felly'n arweinydd ar fyddin brenin Lloegr a thrwy gydol y gwarchae, danfonodd lu o farchogion allan i herwa, lladd a difrodi sydyn cyn dychwelyd i ddiogelwch y castell. Ceir tystiolaeth fod olion peiriannau rhyfel y tu allan i'r castell ond ychydig iawn o newid a wnaed i'r castell ei hun. Credir, hefyd, yr holl gyfathrebu a fu rhwng y ddwy ochr yn dystiolaeth mai gwarchae cwrtais oedd hwn, gyda thrafodaeth yn amlach nag ymosodiadau milwrol.

Ceir sawl cofnod i'r milwyr fedru cipio anifeiliaid a ddigwyddai basio heibio. Dywed un cofnod - cwyn am George Twistleton: On one occasion, even when besieged, part of the Denbigh garrison issued out to capture six oxen and on another, twenty, or perhaps even forty cattle. Gan mai ynysu castell yw gwarchae, fel nad oes gyflenwad o fwyd a dŵr, gellir dweud nad oedd, felly, yn warchae, yng ngwir ystyr y gair.

Er hyn, bu'r gwarchae'n un hir a daeth i ben pan ymyrrodd Siarl I, drwy Eubule Thelwall (g. 1622). Ildiodd y Brenhinwyr, ond gellir ystyried mai cyrraedd cyflwr o stalemate wnaeth y ddwy ochr, heb fuddugoliaeth i'r naill na'r llall. Cymerodd y Seneddwyr y castell, dan ofal George Twistleton, a fu'n rhan o'r ymosodiad, a charcharwyd 100 o filwyr y brenin.

Wedi i'r gwarchae ddod i ben, ildiodd Castell Harlech, hefyd, i'r Seneddwyr, ar 13 Mawrth 1647. Ceisiodd byddin y Brenin ail-gymryd Castell Dinbych yn 1648, ond yn aflwyddiannus.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Dinbych - 1282, ymchwil gan y Dr Adam Chapman ar ran Llywodraeth Cymru, Chwefror 2013. Adalwyd 16 Awst 2018.
  2. Dinbych - 1294-5, ymchwil gan y Dr Adam Chapman ar ran Llywodraeth Cymru, Chwefror 2013. Adalwyd 16 Awst 2018.
  3. Dinbych - 1294-5, ymchwil gan y Dr Adam Chapman ar ran Llywodraeth Cymru, Chwefror 2013. Adalwyd 16 Awst 2018.
  4. meysyddbrwydro.cbhc.gov.uk; Dr Adam Chapman 2013; adalwyd 17 Awst 2018.
  5. meysyddbrwydro.cbhc.gov.uk Dr Adam Chapman, 2013; adalwyd 18 Awst 2018.
Baner CymruEicon awrwydr   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
CymruDinbych.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Ddinbych. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato