Tomen y Rhodwydd
| Math | castell mwnt a beili, Cestyll y tywysogion Cymreig |
|---|---|
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Sir Ddinbych |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 53.0554°N 3.2295°W |
| Cod OS | SJ1769651606 |
![]() | |
| Statws treftadaeth | heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
| Manylion | |
| Dynodwr Cadw | DE018 |
Castell mwnt a beili a godwyd gan Owain Gwynedd i amddiffyn gororau Gwynedd Is Conwy yw Tomen y Rhodwydd (hefyd: Castell y Rhodwydd a Chastell yr Adwy). Saif mewn lle strategol bwysig, gan amddiffyn Dyffryn Clwyd drwy Nant y Garth, i'r de o Landegla yn Iâl (de-ddwyrain Sir Ddinbych heddiw).
Hwn, mae'n debyg, oedd y 'Castell yn Iâl' a godwyd gan Owain Gwynedd yn 1149, yn ôl Brut y Tywysogion, pan gipiodd gantref Iâl oddi ar frenhinoedd Powys. Safodd y castell cyntaf hwnnw hyd 1157 pan gafodd ei losgi'n ulw gan Iorwerth Goch ap Maredudd (Iorwerth Goch) o Bowys yn sgîl cyrch gan Harri II o Loegr ar Wynedd. Ceir cofnod arall mewn dogfen Seisnig o 1212 sy'n cyfeirio at drwsio 'castell Iâl', ond mae'n debyg mai castell arall yn yr un ardal a olygir, sef Tomen y Faerdre, 3 milltir i lawr y dyffryn ger Llanarmon-yn-Iâl.
Mae'r castell yn sefyll ar dir preifat ond gellir ei weld o'r ffordd A525 rhwng Wrecsam a Rhiwabon, tua milltir a hanner i'r de-orllewin o Landegla.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Richard Avent, Cestyll Tywysogion Cymru (Caerdydd, 1983)
- Paul R. Davies, Castles of the Welsh Princes (Abertawe, 1988)
