Tomen y Faerdre

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Tomen y Faerdre.

Amddiffynfa canoloesol yn Sir Ddinbych yw Tomen y Faerdre, a leolir ar gwr deheuol pentref Llanarmon-yn-Iâl yn ne-ddwyrain y sir.

Ni wyddys dim am hanes cynnar yr amddiffynfa. Mae'n sefyll ar ben bryn isel ar lan ddwyreiniol Afon Alun. Cwta milltir a hanner i'r gorllewin ceir rhan o Glawdd Offa ond nid yw'n debyg fod yr amddiffynfa yn perthyn i gyfnod codi'r Clawdd, sef yr 8g. Mae'n dominyddu'r rhan yma o ddyffryn Alun.

Yn ôl pob tebyg, mae'n perthyn i'r 12g. Codwyd mwnt ar y bryn gan ddefnyddio'r clogwyn ar ochr afon Alun fel amddiffynwaith naturiol a chloddio ffos ar y tair ochr arall. Mae'r mwnt yn mesur 25 metr ar draws ac yn 6 metr o uchder. Does dim olion beili.[1]

Ni wyddom pwy gododd y castell hwn. Dichon mai gwaith y Normaniaid ydyw ond ni ellir diystyru'r posiblrwydd mai gwaith tywysogion Powys neu Wynedd ydyw: saif Castell y Rhodwydd, a godwyd gan Owain Gwynedd yn 1149, tua 3 milltir i fyny'r dyffryn. Yr unig gofnod hanesyddol yw iddo gael ei atgyfnerthu gan filwyr y brenin John o Loegr yn ei gyrch yn erbyn Llywelyn Fawr o Wynedd yn 1212.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Helen Fulham, Clwyd and Powys. A Guide to Ancient and Historic Wales. (HMSO, 1995), tud. 139.
  2. Clwyd and Powys, tud. 139.