Y Berfeddwlad

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Gwynedd Is Conwy)
Teyrnasoedd Cymru 400-800
(y map gwreiddiol gan William Rees 1959
Atgynhyrchwyd yn 'Hanes Cymru' gan John Davies)

Yr enw canoloesol ar y rhan o ogledd Cymru sy'n gorwedd rhwng Afon Conwy ac Afon Dyfrdwy oedd Y Berfeddwlad. Mae'n gyfateb yn fras i'r hen sir Clwyd. Enw arall arno oedd Gwynedd Is Conwy.

Fe'i gelwid Y Berfeddwlad (perfedd, "canol") nid am ei fod yn y canol rhwng Gwynedd Uwch Conwy, prif diriogaeth tywysogion Gwynedd, a'r Y Mers Normanaidd, ond am ei fod yn newid dwylo'n aml rhwng Gwynedd a Phowys, ac yn neilltuol felly rhwng Gwynedd a Phowys Fadog.

Cantrefi a chymydau[golygu | golygu cod]

Rhennid y Berfeddwlad yn bedwar cantref a deudddeg cwmwd, sef: