Tegeingl

Oddi ar Wicipedia
Teyrnasoedd Cymru 400-800
(y map gwreiddiol gan William Rees 1959
Atgynhyrchwyd yn 'Hanes Cymru' gan John Davies)

Cantref yng ngogledd-ddwyrain Cymru oedd Tegeingl. Fe'i enwir ar ôl y Deceangli, un o lwythau Celtaidd Cymru yn Oes yr Haearn a'r cyfnod Rhufeinig.

Mae'r cantref yn gorwedd yn nwyrain y Berfeddwlad ar arfordir y Gogledd rhwng Afon Clwyd yn y gorllewin a Glannau Dyfrdwy yn y dwyrain. I'r gorllewin mae'n ffinio â chantrefi Rhos a Rhufoniog, yn y de-orllewin â chwmwd Dogfeiling yng nghantref Dyffryn Clwyd, ac yn y de-ddwyrain ag Ystrad Alun a Phenarlâg. Roedd y diriogaeth yn cyfateb yn fras i Sir y Fflint heddiw.

Yn Oes y Tywysogion roedd Tegeingl yn cynnwys tri chwmwd Rhuddlan, Prestatyn a Cwnsyllt. Perthynai'r cantref i dywysogion cynnar teyrnas Gwynedd, ond a ddiwedd yr 8g fe'i goresgynnwyd gan y Mersiaid, gelynion mawr Gwynedd a Phowys. Arosodd yn nwylo'r Saeson a'r Normaniaid nes i Owain Gwynedd ei adfer i Wynedd yn y 12g. Newidiai ddwylo sawl gwaith yn yr ymgiprys rhwng tywysogion Gwynedd a Choron Lloegr yn y ganrif olynol.

Rhuddlan oedd ei ganolfan, ond roedd Diserth yn bwysig hefyd. Yn ddiweddarach sefydlwyd mynachlog yn Ninas Basing.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]