Ystrad Alun

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Ardal yng ngogledd-ddwyrain Cymru yw Ystrad Alun (neu yng ngwaith Guto'r Glyn: Alun Ystrad[1]), a fu'n un o gantrefi'r Oesoedd Canol ac wedyn yn gwmwd. Llifa Afon Alun trwy'r ardal, gan roi iddo ei henw.

Yn wreiddiol, roedd Ystrad Alun yn rhan o deyrnas Bowys. Bu ym meddiant Powys Fadog am gyfnodau yn y 12g ond bu hefyd dan reolaeth teyrnas Gwynedd fel rhan o'r Berfeddwlad (Gwynedd Is Conwy). Roedd yn ffinio â chwmwd Cwnsyllt, cantref Tegeingl i'r gogledd, Iâl i'r gorllewin, a Maelor Gymraeg i'r de.

Ymddengys fod yr hen gantref yn cynnwys y cymydau hyn:

  • Penarlâg (rheolaeth ysbeidiol)
  • Yr Hob (rheolaeth ysbeidiol)
  • Yr Wyddgrug (sef Ystrad Alun)

Ond collodd y cantref ei statws fel uned lywodraethol, efallai oherwydd ansefydlogrwydd y sefyllfa ar y ffin rhwng teyrnasoedd Gwynedd a Phowys a Iarllaeth Caer. Cyfyngid y defnydd o'r enw wedyn i gwmwd Ystrad Alun, a elwir hefyd yn Gwmwd Yr Wyddgrug.

Prif ganolfan y cantref a'r cwmwd oedd Yr Wyddgrug. Yn ddiweddarach, ar ôl goresgyniad Edward I o Loegr, daeth yr ardal yn rhan o Sir y Fflint. Heddiw mae tiriogaeth yr hen gantref yn cael ei rhannu rhwng Sir y Fflint a Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan gutorglyn.net; adalwyd 22 Mawrth 2018.