Penarlâg (cwmwd)

Oddi ar Wicipedia
Erthygl am y cwmwd canoloesol yw hon. Am y pentref o'r un enw gweler Penarlâg.

Cwmwd canoloesol oedd Penarlâg, yng ngogledd-ddwyrain Cymru am y ffin â Lloegr.

Yn wreiddiol, roedd y cwmwd yn rhan o gantref Ystrad Alun, yn nheyrnas Powys. Bu Ystrad Alun ym meddiant Powys Fadog am gyfnodau yn y 12g ond bu hefyd dan reolaeth teyrnas Gwynedd fel rhan o'r Berfeddwlad (Gwynedd Is Conwy).

Roedd Penarlâg yn ffinio â chwmwd Cwnsyllt, cantref Tegeingl a chwmwd Ystrad Alun (Yr Wyddgrug) i'r gorllewin, a'r Hob i'r de. Dynodai Afon Dyfrdwy'r ffin rhwng Penarlâg ac Iarllaeth Caer.

Prif ganolfannau'r cwmwd oedd Penarlâg ei hun, gyda'i gastell, a Chastell Ewlo. Dechreuodd Ail Ryfel Annibyniaeth Cymru ar Sul y Blodau 1282 pan ymosododd Dafydd ap Gruffudd ar gastell Penarlâg

Am ddwy ganrif ar ôl y goresgyniad, bu'r cwmwd yn arglwyddiaeth ym meddiant teuluoedd Salbri a Stanley, heb fod yn rhan o'r Sir y Fflint a grëwyd yn 1282, ond yn ddiweddarach daeth yr ardal yn rhan o Sir y Fflint ei hun.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]