Prestatyn (cwmwd)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Cwmwd canoloesol yn y Berfeddwlad ar arfordir gogledd-ddwyrain Cymru oedd cwmwd Prestatyn. Gyda chymydau Rhuddlan a Cwnsyllt, roedd yn un o dri chwmwd cantref Tegeingl.

Gorweddai'r cwmwd yng ngogledd Tegeingl, yn llain hir o dir ar yr arfordir, gan ymestyn o lannau afon Clwyd yn y gorllewin (ger Y Rhyl a Rhuddlan heddiw) hyd Y Parlwr Du a chyffiniau Ffynnongroyw yn y dwyrain. Ffiniai â chymydau Cwnsyllt (Coleshill) a Rhuddlan, yn yr un cantref, ac â chwmd Is Dulas, cantref Rhos, i'r gorllewin.

Diserth oedd canolfan y cwmwd. Roedd o bwys strategol am ei fod yn gorwedd ar y llwybr arfordirol i gyfeiriad Gwynedd o gyfeiriad Lloegr.

Yn yr Oesoedd Canol Cynnar, bu'r rhan yma o'r wlad ym meddiant Mercia am gyfnod, fel y tyst amryw o'r enwau lleoedd o darddiad Saesneg o hyd, yn cynnwys yr enw Prestatyn ei hun. Fe'i adenillwyd gan y Cymry dan Owain Gwynedd a daeth yn rhan o gantref Tegeingl. Codwyd Castell Prestatyn gan un o arglwyddi Normanaidd y Mers yn y 12g ond cafodd ei gipio a'i ddinistrio gan Owain Gwynedd.

Am lawer o'r amser bu ym meddiant brenhinoedd a thywysogion Gwynedd, ond yn y 1280au fe'i meddianwyd gan goron Lloegr a daeth yn rhan o'r Sir y Fflint newydd. Heddiw mae rhan orllewinol yr hen gwmwd yn gorwedd yn Sir Ddinbych a'r rhan arall yn Sir y Fflint.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]